OB3_Services_Slide_Welsh.png

Rydym yn ymateb i anghenion ein cleientiaid, a byddwn bob amser yn ceisio darparu atebion pwrpasol i unrhyw ofynion ymchwil, gwerthuso neu adolygu


Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys: 

  • dylunio a gweithredu methodolegau ymchwil a gwerthuso

  • ymgymryd ag adolygiadau polisi a llenyddiaeth 

  • cyflawni gwaith maes ansoddol gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws a hwyluso gweithdai  

  • cyflawni ymchwil meintiol gan gynnwys holiaduron ar-lein a dros y ffôn 

  • dadansoddi data, ystadegau, tystiolaeth ansoddol ac ymatebion ymgynghoriadau 

  • cynnig cyngor technegol ar gyfer hunan-werthuso neu ddatblygu fframweithiau gwerthuso 

  • cynnal gwerthusiadau ffurfiannol a chrynodol ac ymchwil annibynnol 

Rydym yn brofiadol iawn mewn paratoi adroddiadau i safonau a chanllawiau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR).