Mae Heledd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac yn darparu ymchwil, gwerthuso ac arbenigedd ymgynghorol ar draws ystod o feysydd polisi gan gynnwys addysg, sgiliau ac iechyd.
Bu Heledd gynt yn gweithio fel Uwch-ddarlithydd Busnes a Rheolaeth, gan arbenigo mewn ymddygiad sefydliadol, ac roedd hi’n un o'r penodiadau academaidd cyntaf i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O dan ei harweinyddiaeth, denodd niferoedd i astudio busnes, marchnata ac adnoddau dynol trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf mewn prifysgolion yn Ne Cymru.
Roedd Heledd yn Ymgynghorydd Polisi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am chwe blynedd gan gynrychioli llais llywodraeth leol mewn datblygiadau strategol ym meysydd hamdden, diwylliant, twristiaeth a’r iaith Gymraeg yng Nghymru.