Entrepreneuriaid ifanc: y daith i ddechrau busnes

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cwmnïau Ymchwil OB3 a Beaufort i gynnal ymchwil i ddeall yn well y daith mae pobl ifanc yn ei dilyn wrth ddechrau busnes.

Bydd yr ymchwil yn cynnwys arolwg ffôn eang ymhlith pobl ifanc sydd rhwng 18 a 30 oed sy'n bwriadu neu wedi dechrau mewn busnes yn ystod yr ychydig blynyddoedd diwethaf. Diben yr arolwg fydd nodi sbardunau, rhwystrau a dylanwadau ar entrepreneuriaid ifanc wrth iddynt ddechrau busnes gyda'r nod o gynhyrchu adroddiad segmentiad clir a fydd yn herio a dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau.

Mae croeso i chi gysylltu â Nia Bryer o’r tîm ymchwil yn uniongyrchol er mwyn darparu unrhyw gysylltiadau (01558 822922 / nia@ob3research.co.uk) neu i drafod yr astudiaeth hon yn fanylach.