GWERTHUSIAD O'R GRONFA INTEGREIDDIO RHANBARTHOL AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Rhestr o adroddiadau ac allbynnau’r astudiaeth hyd yma | Rhagfyr 2025
Mae Llywodraeth Cymruwedi comisiynu partneriaeth i gyflwyno gwerthusiad annibynnol a chynhwysfawr er mwyn asesu nodau, gweithredu ac effaith y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF) 2022-2027. Mae'r gwerthusiad yn parhau, ac mae'n cynnwys tri cham a chwestiynau allweddol:
Mae Camau 1 a 2 bellach wedi'u cwblhau ac mae’r adroddiadau ac allbynnau a amlinellir isod ar gael.
1. Cysyniadu
O theori i ymarfer: cysyniadu egwyddorion canllaw y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (Llewellyn and Verity, 2024)
Dyma'r allbwn mawr cyntaf o'r astudiaeth, sy'n nodi'r syniadau a'r gwerthoedd sy'n llywio'r RIF fel y'u deallir o ystod o safbwyntiau. Mae'n tynnu ynghyd ganfyddiadau pedwar adroddiad sy'n darparu tystiolaeth ategol:
Tystiolaeth Ategol 1: Fframwaith ar Gyfer Newid (Verity and Llewellyn, 2023)
Tystiolaeth Ategol 2: Adolygiad Llenyddiaeth Realaidd Cyflym (Tetlow et al., 2024)
Tystiolaeth Ategol 3: Adroddiad Mapio Cysyniad Grŵp: Cysyniadu'r RIF (Wallace and Wallace, 2024)
Tystiolaeth Ategol 4: Adroddiad Cyfweliadau Cwmpasu (Bryer and Bebb, 2024)
Yn ogystal, cyhoeddwyd papur byr gan Llewellyn a Verity (2025) ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig yn myfyrio ar natur cronfeydd y Llywodraeth sydd â chyfyngiad amser fel RIF: System transformation or cliff-edge?
2. Gweithredu
Gweithredu Dull y RIF: Profiadau o ymwreiddio egwyddorion yr RIF yn ymarferol (Llewellyn and Verity, 2025)
Mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â chwestiynau gweithredu RIF. Mae hefyd yn myfyrio ar newidiadau i'r cyd-destun polisi a gwleidyddol, gan gynnwys momentwm ynghylch datblygu'r 'System Gofal Cymunedol Integredig' ar gyfer Cymru. Wrth wneud hynny, mae'n tynnu ar dri adroddiad sy'n darparu tystiolaeth ategol:
Tystiolaeth Ategol 1: Adroddiad Cyfweliadau Ansoddol (Bebb et al, 2025)
Tystiolaeth Ategol 2: Adroddiad Mapio Cysyniadau Grŵp: Gweithredu’r RIF (Wallace and Wallace, 2025)
Tystiolaeth Ategol 3: Effeithiolrwydd a chost a budd rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (Spencer et al., 2025)
Gwerthusiad o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Arweinwyr yr Astudiaeth: Mark Llewellyn a Fiona Verity
Tîm yr Astudiaeth: Heledd Bebb, Nia Bryer, Tony Garthwaite, Lisa Griffiths, Mary Lynch, Simon Newstead, Llinos Haf Spencer, Sion Tetlow, Carolyn Wallace a Sarah Wallace
Partneriaid: Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru – Prifysgol De Cymru, Prfiysgol Brunel, Prifysgol Abertawe, Ymchwil OB3, Coleg Brenhinol Llawfeddygon Iwerddon
Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1DL, mark.llewellyn@southwales.ac.uk
