Gwaith ymchwil llawrydd
Cyfle am waith cyson a hyblyg gan gyfrannu at ystod o brosiectau amrywiol a diddorol gydag Ymchwil OB3 - cwmni ymgynghori ymchwil a gwerthuso blaenllaw yng Nghymru sy’n gwbl ymroddedig i gynhyrchu gwaith o safon sy’n cael effaith.
Y rôl
Rydym yn dymuno clywed wrth unigolion allai ymgymryd â gwaith llawrydd gyda’r sgiliau a’r profiad canlynol:
y gallu i weithiol yn annibynnol ac fel rhan o dim
sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig
sgiliau trefnu amser a rheoli prosiect
dealltwriaeth gref o’r hinsawdd wleidyddol a datblygiadau polisi yng Nghymru
y gallu i grynhoi gwybodaeth a data cymhleth i argymhellion syml a synhwyrol ac i gynhyrchu gwaith o safon uchel
Byddai sgiliau marchnata, cyfieithu neu weinyddol uchel hefyd yn ddymunol.
Byddai’r gwaith yn cyfrannu i'r tasgau canlynol:
ymchwil pen desg gan ddadansoddi canfyddiadau gan ystyried data meintiol a thystiolaeth ansoddol
trefnu a chynnal gwaith maes gan gynnwys cynnal cyfweliadau rhithiol/wyneb yn wyneb a hwyluso grwpiau ffocws
cyfrannu tuag at ddrafftio ceisiadau am waith ac adroddiadau
cynorthwyo i gydlynu a threfnu prosiectau ymchwil a gwerthuso
Rydym yn chwilio am unigolion proffesiynol a fyddai’n medru ymgymryd â’r cyfrifoldebau yma trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r gwaith yn cynnig cyfle i unigolion weithio’n hyblyg o adre gan gyfrannu tuag at brosiectau ymchwil yn achlysurol neu’n fwy rheolaidd, yn ddibynnol ar eu hargaeledd.
Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda chwmni deinamig a chynhenid Gymreig sy’n tyfu ac yn datblygu i feysydd newydd.
Os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o waith, gofynnwn ichi gysylltu â ni er mwyn trefnu sgwrs drwy e-bost nia@ob3research.co.uk gan ddarparu ychydig o wybodaeth ychwanegol amdanoch chi, gan gynnwys CV diweddar.
Amdanom ni
Ymchwil OB3
Mae llunio polisi craff yn dechrau gydag ymchwil gadarn. Ers ein sefydlu yn 2000, mae ein cleientiaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector wedi dibynnu arnom i ddarparu mewnwelediadau cadarn sydd wedi eu gwreiddio mewn dadansoddiad cadarn ac wedi'i deilwra'n bwrpasol - gan eu helpu i lunio penderfyniadau polisi sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Rydym yn fusnes cwbl ddwyieithog gyda dealltwriaeth ddofn o fyd polisi Cymru. Rydym yn gweithio ar draws ystod eang o sectorau – o addysg, cyflogaeth a sgiliau i'r amgylchedd a newid hinsawdd, ac o iechyd a lles, i’r economi ac adfywio.
Rydym yn falch o fod wedi ein lleoli yng Nghymru – ac yn angerddol am roi rhywbeth yn ôl i'n cymuned a'n heconomi, gan ddwyn effaith gadarnhaol ar ddyfodol ein cenedl.
Mae ein model busnes yn hyblyg ac yn flaengar, sy’n cyfuno dulliau ymchwil profedig gydag arloesedd digidol. Mae'n ddull sy'n ein helpu i gydweithio'n effeithiol, gan ystyried yr arbenigedd cywir ar gyfer pob prosiect unigol. Yr ydym yn awyddus i ehangu ar ein tim craidd o weithwyr llawrydd er mwyn ymateb i anghenion cleientiaid.
Ein gwerthoedd
Ansawdd. Rydym yn cyflwyno ein canfyddiadau yn seiliedig ar ddadansoddiad trylwyr a chadarn o’r dystiolaeth, gan ddarparu mewnwelediadau â gwerth gwirioneddol
Effaith. Rydym yn darparu argymhellion pragmatig, defnyddiol i'n cleientiaid. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth, gan sicrhau newid cymdeithasol go iawn.
Gonestrwydd. Rydym yn meithrin perthynas gref gydag eraill. Rydym yn ddibynadwy ac yn gallu delio â chomisiynau proffil uchel sy’n sensitif yn wleidyddol.
Hyblygrwydd. Rydym yn teilwra ein hagwedd yn ofalus at bob prosiect unigol, gan gydweithredu’n agos ac yn gynhyrchiol gydag arbenigwyr.
Esblygiad. Rydym yn flaengar – bob amser yn ceisio datblygu rhwydweithiau a sgiliau newydd i wella ein gwasanaethau
Ceir rhagor o wybodaeth amdanom yma – www.ob3.cymru