Einir Burrowes
Ymgynghorydd OB3
Mae Einir yn Gyfarwyddwr Dateb Cyf ac mae wedi gweithio'n helaeth gydag OB3 ers 2002, gan gyfrannu at a rheoli aseiniadau gwerthuso ac ymchwil ar draws meysydd datblygu economaidd a chymdeithasol, addysg a hyfforddiant.
Mae Einir wedi arwain ar nifer o astudiaethau gwerthuso a gan gynnwys rhai y rhaglen ReAct, Sgiliau Tŵf Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Einir hefyd wedi rheoli ymchwil i'r defnydd a wneir o ddata cyrchfannau addysg bellach, astudiaeth ar gyfer Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Cymru yn ogystal ag ymchwil i anghenion gwasanaeth cwsmeriaid cyfrwng Cymraeg ar gyfer Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Cyn sefydlu Dateb a gweithio gydag OB3, bu Einir yn gweithio mewn swyddi uwch-reoli gydag ELWa, TEC y Canolbarth a TEC Powys. Cyflawnodd amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Pennaeth Strategaeth a Pholisi a Phennaeth Cyllid ac, felly, mae ganddi wybodaeth 'ymarferol' da ynghych datblygu polisi, cynnal rhaglenni a materion gweithredol. Dechreuodd Einir ei gyrfa mewn gwasanaethau ariannol a gweithiodd am bedair blynedd fel cyfrifydd cwmni yn y sector preifat.
Mae Einir yn wreiddiol o Benrhyn Llŷn ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac yn gyfarwydd ag ymgymryd â gwaith ymchwil yn Gymraeg a Saesneg. Mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ac mae’n yn aelod o Gymdeithas Gwerthuso y DU.