Ymchwil i gefnogi gwerthusiad o'r Diwygiadau Diamond

TAFLEN WYBODAETH I DDYSGWYR SY'N CYMRYD RHAN

Gweler yr hysbysiad preifatrwydd am wybodaeth am sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth yn ddiogel.

1.    Pwy sy'n gwneud yr ymchwil?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i OB3 Research (OB3) a Miller Research I wneud prosiect ymchwil i gefnogi gwerthusiad o'r Diwygiadau Diamond i Addysg Uwch Cymru. Mae OB3 a Miller Research ill dau yn gwmnïau ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori annibynnol.

2.    Pam mae'r ymchwil yn cael ei gynnal?

Nod yr ymchwil yw casglu tystiolaeth am ehangu mynediad i addysg uwch, cryfhau darpariaeth ran-amser a chryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig. 

Disgwylir i'r ymchwil hefyd ddarparu argymhellion ar gyfer datblygiad cyllid myfyrwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

3.    Pam gofynnwyd i chi gymryd rhan?

Mae OB3 a Miller Research eisiau siarad â dysgwyr Blwyddyn 13 sydd yn yr ysgol, chweched dosbarth neu goleg am eu barn ar fynd i'r brifysgol ai peidio. Mae OB3 eisiau siarad â dysgwyr sydd wedi penderfynu mynd i'r brifysgol, wedi penderfynu peidio â gwneud hynny, neu sy'n dal i fod yn ansicr am eu cynlluniau ar gyfer y brifysgol. Rydym am wybod eich barn am addysg uwch a gwerth a chostau astudio yn y brifysgol.

4.    Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?

Ar ôl cwblhau arolwg o ddysgwyr Blwyddyn 13, dywedasoch wrthym y byddech chi'n barod i gymryd rhan mewn grŵp trafod gyda dysgwyr Blwyddyn 13 eraill. Nod y grŵp trafod yw deall mwy am y rhesymau pam mae pobl ifanc yn penderfynu mynd, neu beidio â mynd, i'r brifysgol. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein a gynhelir trwy Microsoft Teams rhwng Gorffennaf a Hydref 2025. Bydd y grŵp ffocws yn cymryd hyd at awr. Bydd dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn Gymraeg neu Saesneg, yn ôl eu dewis. 

5.    A fyddwch chi'n cael eich talu am gymryd rhan?

Rydym yn cynnig taleb rhodd gwerth £20 i ddysgwyr sy'n cymryd rhan yn ein grwpiau ffocws.

6.    Oes rhaid i chi gymryd rhan?

Na, mae cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Gall dysgwyr benderfynu peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg ac nid oes angen rhoi unrhyw reswm. Gall cyfranogwyr ddweud na i ateb unrhyw gwestiynau yn ystod y grŵp ffocws.

7.    Beth yw'r manteision posibl o gymryd rhan?

Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu eu polisïau ynghylch cyllid myfyrwyr.

8.    Beth yw'r risgiau posibl o gymryd rhan?

Bydd trafodaethau grŵp ffocws yn cael eu cynnal yn gyfrinachol ac ni fydd unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud wrthym yn cael ei rannu ag unrhyw un y tu allan i'r tîm ymchwil, oni bai bod risg o niwed i chi neu rywun arall. Gofynnir i gyfranogwyr grŵp ffocws beidio ag ailadrodd unrhyw beth sy'n cael ei ddatgelu gan gyfranogwyr grŵp ffocws eraill.

Byddwn yn adrodd canfyddiadau'r ymchwil yn ddienw fel na fydd neb yn gallu eich adnabod o'r adroddiad.

9.    Beth fydd yn digwydd i'm gwybodaeth bersonol a recordio'r drafodaeth?

Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd sy'n cyd-fynd â'r daflen wybodaeth hon, sy'n disgrifio sut rydym yn trin unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel.

10. Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau'r prosiect ymchwil?

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

11. Beth os oes gen i gwestiwn?

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn OB3 yw Nia Bryer.

Cyfeiriad e-bost: nia.bryer@ob3research.co.uk

Diolch am ystyried cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn.