Ymchwil i gefnogi gwerthusiad o'r Diwygiadau Diamond

TAFLEN WYBODAETH I FYFYRWYR SY'N CYMRYD RHAN

Gweler yr hysbysiad preifatrwydd am fanylion am sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth yn ddiogel.

1.    Pwy sy'n gwneud yr ymchwil?

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research (OB3) a Miller Research i gynnal ymchwil i gefnogi gwerthusiad o'r Diwygiadau Diamond i Addysg Uwch Cymru. Mae OB3 a Miller Research ill dau yn gwmnïau ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori annibynnol.

2.    Pam mae'r ymchwil yn cael ei gynnal?

Nod yr ymchwil yw darparu tystiolaeth i gefnogi asesiad o dri amcan cyntaf y Diwygiadau Diamond, sy'n ymwneud ag ehangu mynediad i addysg uwch, cryfhau darpariaeth ran-amser a chryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig. 

Disgwylir i'r ymchwil hefyd ddarparu argymhellion ar gyfer datblygiad cyllid myfyrwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

3.    Pam gofynnwyd i chi gymryd rhan?

Mae OB3 a Miller Research eisiau siarad â myfyrwyr addysg uwch sydd naill ai'n astudio yn rhan-amser a/neu sy'n astudio cwrs meistr a addysgir am eu profiadau o brifysgol a chyllid myfyrwyr.

4.    Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?

Ar ôl cwblhau arolwg ar gyfer myfyrwyr addysg uwch, dywedasoch wrthym y byddech chi'n barod i gymryd rhan mewn grŵp trafod gyda myfyrwyr eraill i ddeall mwy am eich profiadau o addysg uwch, cymorth i fyfyrwyr a chyllid myfyrwyr. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein a gynhelir trwy Microsoft Teams rhwng Gorffennaf a Hydref 2025. Bydd y grŵp ffocws yn cymryd hyd at awr. Bydd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn Gymraeg neu Saesneg, yn ôl eu dewis. 

5.    A fyddwch chi'n cael eich talu am gymryd rhan?

Rydym yn cynnig taleb rhodd gwerth £30 i fyfyrwyr sy'n cymryd rhan yn ein grwpiau ffocws.

6.    Oes rhaid i chi gymryd rhan?

Na, mae cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Gall myfyrwyr benderfynu peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg ac nid oes angen rhoi unrhyw reswm. Gall cyfranogwyr ddweud na i ateb unrhyw gwestiynau yn ystod y grŵp ffocws.

7.    Beth yw'r manteision posibl o gymryd rhan?

Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu eu polisïau ynghylch cymorth a chyllid myfyrwyr.

8.    Beth yw'r risgiau posibl o gymryd rhan?

Bydd trafodaethau grŵp ffocws yn cael eu cynnal yn gyfrinachol ac ni fydd unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud wrthym yn cael ei rannu ag unrhyw un y tu allan i'r tîm ymchwil, oni bai bod risg o niwed i chi neu rywun arall. Gofynnir i gyfranogwyr grŵp ffocws beidio ag ailadrodd unrhyw beth sy'n cael ei ddatgelu gan gyfranogwyr grŵp ffocws eraill.

9.    Beth fydd yn digwydd i'm gwybodaeth bersonol a recordiad o’r drafodaeth?

Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd sy'n cyd-fynd â'r daflen wybodaeth hon, sy'n disgrifio sut rydym yn trin unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel.

10. Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau'r prosiect ymchwil?

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

11. Beth os oes gen i gwestiwn?

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn OB3 yw Nia Bryer.

Cyfeiriad e-bost: nia.bryer@ob3research.co.uk

Diolch am ystyried cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn.