Ymchwil ar weithgareddau cymunedol bwyd, tyfu bwyd, maeth a gweithgarwch corfforol ym Mro Morgannwg: Hysbysiad Preifatrwydd
Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro (o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Partneriaeth Bwyd y Fro a Chyngor Bro Morgannwg) wedi comisiynu Ymchwil OB3 i gynnal ymchwil i weithgareddau cymunedol bwyd, tyfu bwyd, maeth a gweithgarwch corfforol ledled Bro Morgannwg. Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth drwy:
arolwg ar-lein,
cyfweliadau un-i-un, a
grwpiau trafod bach
gyda chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol, clybiau, mentrau a sefydliadau sy'n darparu'r mathau hyn o weithgareddau.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod yr astudiaeth yn cael ei chynnwys mewn adroddiad dienw a rennir â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Partneriaeith Bwyd y Fro a Chyngor Bro Morgannwg. Bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy gyfweliadau a grwpiau trafod bach a data'r arolwg cyn iddo gael ei rannu â nhw.
Bydd eich cyfranogiad i’r adolygiad hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig i helpu i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn y dyfodol.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer.
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk.
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.
Bydd eich data cyswllt wedi cael ei gyrchu naill ai (a) yn annibynnol gan OB3 trwy wybodaeth sydd eisoes ar gael yn y parth cyhoeddus neu (b) gan un o'r sefydliadau cleientiaid sy'n dal eich data cyswllt oherwydd perthynas sy'n bodoli eisoes.
Arolwg
Bydd OB3 yn anfon e-bost atoch fydd yn cynnwys dolen i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg. Nid yw'r arolwg yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol yn ystod yr arolwg, bydd OB3 yn dileu hyn o'r data yn fuan ar ôl i'r arolwg gau, a chyn i'r data gael ei rannu gyda Thîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro, Cyngor Bro Morgannwg a Phartneriaeth Bwyd y Fro.
Cyfweliad neu grŵp trafod bach
Gall OB3 anfon e-bost neu eich ffonio i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp trafod bach. Lle gofynnir i chi gymryd rhan, nid oes angen i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r grŵp cyfweld / trafodaeth gael ei recordio drwy fideo.
Bydd cyfweliadau a grwpiau trafod fel arfer yn cael eu cynnal trwy Microsoft Teams. Rydym yn dymuno recordio cyfweliadau a thrafodaethau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r drafodaeth ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os cofnodir cyfweliadau, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chofnodir trafodaethau, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael eich anfon i atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, neu gysylltu â'ch hunaniaeth. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Bydd eich cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ddarparu gwasanaethau cymorth. Gallai'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, gael ei defnyddio i lywio gwasanaethau cymorth yn y dyfodol ar gyfer sefydliadau a grwpiau cymunedol sy'n gweithredu yn ardal awdurdod Bro Morgannwg.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 ardystiad Cyber Essentials.
Wrth gynnal arolygon, mae OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw meddalwedd SNAP. Rydym wedi sicrhau bod meddalwedd SNAP yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd a bod yr holl ddata'n cael ei brosesu yn y DU.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri rheolau yn digwydd, bydd OB3 yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad y gall y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol ei rannu â sefydliadau partner. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd OB3 R yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn ystod trawsgrifio yn cael ei ddileu gan OB3 dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r ymchwil hon, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk