Gwerthusiad o Gymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy (CaW a CaW+).
Gwerthusiad Terfynol: Arolwg Ffôn Cyfranogwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 ar y cyd â Pobl a Gwaith, IFF Research, Prifysgol Caerdydd a Dateb (Ymchwil OB3 a phartneriaid), i gynnal gwerthusiad o Cymunedau am Waith (CfW) a Chymunedau am Waith a Mwy (CfW+). Nod y gwerthusiad yw asesu effaith y ddwy raglen a'r canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer cyfranogwyr.
Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Ymchwil OB3 a phartneriaid yn casglu gwybodaeth trwy arolygon ffôn gydag unigolion sydd wedi cymryd rhan, ac ers hynny gadael, y rhaglen CFW a CFW+.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil, a bydd yn derbyn data’r arolwg a gesglir. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig, i gynhyrchu adroddiadau a gwaith pellach ar gyfer gwerthusiad CFW/CFW+.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y gwerthusiad yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a phartneriaid, a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Bydd dadansoddiad dienw o’r wybodaeth a gasglwyd yn cael ei gynnwys mewn adroddiad gwerthuso a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Ymchwil OB3 yw Nia Bryer:
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol ydym ni yn ei ddal a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.
Mae Ymchwil OB3 mewn cydweithrediad â Pobl a Gwaith, IFF Research, Prifysgol Caerdydd a Dateb (Ymchwil OB3 a phartneriaid) wedi derbyn eich manylion cyswllt a data personol arall fel a ganlyn:
enw
cyfeiriadau e-bost
rhif ffôn
Rhif adnabod cyfranogwr
Rhif dysgwr unigryw
Rhyw
Ethnigrwydd
Dyddiad Geni
Cyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith
Statws anabledd
Mae’r data wedi dod i law oddi wrth:
Ar gyfer cyfranogwyr CfW, o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae'n ofynnol i bob gweithrediad a ariennir gan ESF roi manylion eu cyfranogwyr i WEFO.
Ar gyfer cyfranogwyr CfW+, o Awdurdodau Lleol Cymru sy'n cadw eich gwybodaeth fel cyfranogwr o'r cynllun ac y mae'n ofynnol iddynt ddarparu manylion cyfranogwyr y cynllun i Lywodraeth Cymru.
Defnyddir y wybodaeth gyswllt i gysylltu â chi, dros y ffôn neu drwy e-bost, i gymryd rhan yn yr arolwg a defnyddir y wybodaeth arall i’w chynnwys yn yr arolwg yn hytrach na gofyn i chi am y wybodaeth hon eto, os yw ar gael o’r gronfa ddata cyfranogwyr. Defnyddir dyddiad geni os yw ar gael i gyfrifo eich oedran yn hytrach na gofyn i chi. Gofynnir i chi am adborth ar y rhaglen a fynychwyd a gwybodaeth am yr hyn yr ydych wedi'i wneud ers hynny.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa, rhowch wybod i ni ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.
Bydd yr arolwg yn cynnwys y wybodaeth uchod wedi'i hychwanegu at y data gan OB3 a phartneriaid ac yn ogystal bydd yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol: ethnigrwydd (os yw ar goll o'r gronfa ddata o gyfranogwyr) a gwybodaeth ychwanegol am iechyd ac anableddau.
Bydd OB3 a phartneriaid yn defnyddio eich manylion at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig.
Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau ffôn am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon iddo gael ei recordio. Bydd recordiadau’n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd sicrwydd ansawdd data’r arolwg wedi’i gwblhau a data’r arolwg yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at swyddog Llywodraeth Cymru yn unig ac yna’n ei ddileu o ddata’r ymchwil.
Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?
Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir peth o’r data rydym yn ei gasglu yn ‘ddata categori arbennig’ (data ethnigrwydd ac anabledd/iechyd yn yr achos hwn) a’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:
fireinio gweithrediad y cynllun yn barhaus
lywio arfer yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 a phartneriaid bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn OB3 a phartneriaid. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd OB3 a phartneriaid yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 a'r holl bartneriaid ardystiad Cyber Essentials.
Mae gan Ymchwil OB3 a phartneriaid weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd OB3 yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan OB3 a phartneriaid fel rhan o’r prosiect hwn yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder wedi’i chreu sydd â mynediad yn gyfyngedig i’r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Bydd y data personol a roddwch yn cael ei storio yn y ffolder gyfyngedig hon. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.
Bydd OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?
Gall Ymchwil OB3 a phartneriaid ddal data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 a phartneriaid dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd IFF Research yn darparu data'r arolwg i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn dileu’r data hwn erbyn 31 Medi 2023.
Hawliau unigol
O dan GDPR DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:
Cyrchu copi o'ch data eich hun
I ni unioni gwallau yn y data hwnnw
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a
Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:
Enw: Joshua Parry
Cyfeiriad e-bost: Joshua.Parry001@gov.wales
Rhif ffôn: 03000252574
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.