Gwerthusiad o'r Contract Economaidd –

Arolwg ar-lein a chyfweliadau gyda busnesau

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal gwerthusiad o'r Contract Economaidd diwygiedig.

Nod y gwerthusiad hwn yw darparu asesiad annibynnol o effaith y Contract Economaidd (CE) trwy ganfod i ba raddau y gellir priodoli unrhyw newidiadau ymddygiadol ymhlith busnesau yn uniongyrchol i'r Contract Economaidd.  

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein o fusnesau sydd wedi llofnodi'r Contract Economaidd. Bydd OB3 hefyd yn cynnal cyfweliadau gyda sampl o fusnesau. 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o'r data a gesglir gan OB3. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg a'r cyfweliadau ar-lein, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad i’r ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 Research yw Nia Bryer.

Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk

Rhif ffôn: 07792 609821

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.

Derbyniodd OB3 Research (OB3) eich manylion cyswllt gan Lywodraeth Cymru ar ffurf enw, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r manylion hyn gan fod eich busnes wedi mabwysiadu'r Contract Economaidd.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu dderbyn neges atgoffa yna atebwch y neges e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd OB3 yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig.

Mae OB3 wedi danfon e-bost atoch gyda dolen i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Nid yw'r arolwg yn gofyn am gasglu data personol gennych chi ac ni chaiff eich cyfeiriad IP na'ch cyfeiriad e-bost eu casglu wrth gwblhau'r arolwg fel bod eich ymatebion yn ddienw. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'ch ymatebion i'r arolwg, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu â'ch hunaniaeth. Bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol mewn ymatebion i'r arolwg cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â'r arolwg, hoffem drafod materion yn fanylach drwy gyfweliadau. Os ydych yn barod i gymryd rhan mewn cyfweliad, yna bydd angen i chi ddarparu eich manylion gan fod yr arolwg yn ddienw. Mae cyfle ar ddiwedd yr arolwg i ddarparu eich manylion (enw, e-bost a rhif ffôn) a bydd hyn yn cael ei gasglu ar ffurflen arolwg newydd fel bod eich ymatebion i'r arolwg yn aros yn ddienw.

Ni fydd OB3 yn cyfweld pawb sy'n dweud eu bod yn barod i gael eu cyfweld ond yn hytrach byddant yn dewis sampl o'r rhai sydd wedi cytuno i gymryd rhan mewn cyfweliad yn seiliedig ar y rhaglen/adran Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â’r rhaglen, y math o addewid datblygu yn ogystal â lleoliad. Os cysylltir â chi am gyfweliad ni fydd yn ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i gyfweliad gael ei recordio ar fideo.

Rydym yn awyddus i recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os bydd cyfweliadau yn cael eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio i wella'r Contract Economaidd.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy’n medru cyrchu'r data. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 Research ardystiad Cyber Essentials.

Wrth gynnal arolygon, mae OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw meddalwedd SNAP. Rydym wedi sicrhau bod meddalwedd SNAP yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy'r feddalwedd.

Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri rheolau yn digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu yn ystod glanhau neu drawsgrifio data yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd OB3 yn rhoi fersiwn ddienw o ddata'r arolwg i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Linta Mathew

Cyfeiriad A-mail: Linta.Mathew@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 259392

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, Ebost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru.