Adolygiad o Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru 2023/2024: Cyfweliadau a gweithdai gyda Rhanddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research (OB3) i gynnal adolygiad o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru. Y nod yw cynnal adolygiad annibynnol sy’n canolbwyntio ar effaith y LCA yng Nghymru, a’r meini prawf cymhwysedd a gwerth presennol y dyfarniad, yn dilyn argymhellion y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc (CYPE) yn Senedd Cymru. Mae disgwyl hefyd i'r ymchwil ddarparu argymhellion ar gyfer datblygu'r cynllun yn y dyfodol.

Fel rhan o'r adolygiad hwn bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid allweddol.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer.

Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@ob3research.co.uk

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.

Rhoddwyd eich enw, eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn (lle oedd ar gael) i OB3 gan Lywodraeth Cymru, sy’n cadw eich gwybodaeth oherwydd ymgysylltiad parhaus â chi ynghlch y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru. Dim ond at ddiben yr adolygiad hwn y bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth hon.

Gwahoddir cyfranogwyr trwy e-bost i gymryd rhan mewn cyfweliadau neu gweithdai a fydd yn cael eu hwyluso ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac eithrio ar gyfer eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo.

Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau a gweithdai am resymau gweithredol. Yn yr achos yma, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r drafodaeth ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r drafodaeth gael ei chofnodi. Dim ond os na fydd cyfranogwyr yn gwrthwynebu y caiff gweithdy ei recordio. Os cofnodir trafodaethau, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy’n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:

  • Ddeall effaith LCA ar ymrestriad ac ymgysylltiad dysgwyr ag astudiaethau pellach.

  • Asesu ai LCA yw'r model mwyaf effeithiol ac effeithlon i gefnogi dysgwyr, o gymharu â modelau eraill.

  • Asesu pa mor dda y mae LCA a'i feini prawf cymhwysedd yn cyd-fynd â strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru gan ystyried ymrwymiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Iaith Gymraeg yn Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

  • Ystyried sut y dylid parhau i adolygu'r meini prawf cymhwyster a gwerth cymorth yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn. Mae gan OB3 ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan OB3 weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o dorri rheolau, bydd OB3 yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi'i ddileu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau unigol

O dan GDPR DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:

  • I gyrchu copi o'ch data eich hun

  • I ni unioni gwallau yn y data hwnnw

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)

  • I'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Emma Hall

Cyfeiriad e-bost: emma.hall001@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000258673

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.