Gwerthusiad o Gyllid Craidd Mentrau Cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil Old Bell 3 (OB3) i gynnal gwerthusiad o gyllid craidd Mentrau Cymdeithasol.

Diben y gwerthusiad yw darparu asesiad cryno o'r cymorth ariannol craidd a ddarparwyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru rhwng 2017 a 2022, a chynnwys asesiad o’r cyllid ar gyfer yr Academi Mentrau Cymdeithasol rhwng 2019 a 2022.

Diben hyn yw canfod a yw Llywodraeth Cymru wedi cael gwerth am arian gan eu cyllid/buddsoddiadau craidd, effeithlonrwydd (allbynnau a gyflawnwyd yn erbyn y cyllid a roddwyd); ac effeithiolrwydd (canlyniadau a gyflawnwyd). O fewn yr adolygiad, dylid tynnu sylw hefyd at dystiolaeth o arferion da ychwanegol neu wersi a ddysgwyd o’r hyn a gyflawnwyd.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer  gwerthusiad. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a roddir yn ystod yr arolwg, ac yn sicrhau bod y data crai yn ddienw, cyn iddynt gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Mae eich Cyfranogiad yn y gwerthusiad hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Hysbysiad Preifatrwydd

Pa ddata personol sydd gennym ac o ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd'.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion cyswllt arweinydd y grant i Ymchwil Old Bell 3 er mwyn iddynt gysylltu â chi a threfnu cyfweliadau. Cafodd y ffordd y bydd manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil ei hamlinellu yn yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y grant. Bydd y data personol canlynol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw’n cael eu trosglwyddo i Ymchwil Old Bell 3:

·       Enw arweinydd y Grant

·       Manylion cyswllt (ffôn ac e-bost)

Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi copïau o lythyrau dyfarnu grantiau i OB3 sy'n cynnwys gwerth y grant, adroddiadau cynnydd chwarterol a chofnodion cyfarfodydd.

Bydd OB3 yn cysylltu â’r holl gysylltiadau a roddwyd iddynt i ofyn iddynt gymryd rhan mewn arolwg, naill ai dros y ffôn neu ar-lein. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol – os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, yna ymatebwch i'r e-bost gwahodd a gofyn i’ch manylion gael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd OB3 ond yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn ystod yr ymarfer casglu data hwn yw er mwyn arfer ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data rydym yn eu casglu yn 'ddata categori arbennig' (eich ethnigrwydd a'ch statws anabledd yn yr achos hwn). Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae gwerthusiadau fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Er enghraifft, gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y gwerthusiad hwn i wneud y canlynol:

·       Cynllunio darpariaeth cymorth busnes yn y dyfodol

·       Cael gwerth am arian

·       Gwneud canfyddiadau allweddol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae OB3 wedi cael ei achredu’n llawn gan Cyber Essentials ac yn cydymffurfio â'r GDPR. Mae OB3 yn gweithredu cofnod o staff sydd wedi cael caniatâd i gael mynediad at ddata personol a ddiogelir.

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn anfon data at OB3 sydd eisoes wedi'u hamgryptio, mae OB3 yn cadw'r lefel hon o amgryptio ar ein system. Polisi OB3 yw nad yw cyfrineiriau amgryptio byth yn cael eu he-bostio gyda ffeiliau data.

Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract rhwng Chwefror 2022 a Mehefin 2022, a bydd unrhyw ddata personol yn cael eu dileu gan OB3 dri mis ar ôl diwedd y contract. Bydd hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn i weld gwybodaeth a gedwir gan lawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth a roddir gennych fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi cyn ymateb i unrhyw gais sy'n gofyn am eich gwybodaeth.

O dan y GDPR, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Dyma nhw:

·       hawl i weld copi o'r wybodaeth yn eich data personol;

·       hawl i wrthwynebu prosesu data os bydd gwneud hynny’n achosi, neu os bydd yn debygol o achosi niwed neu ofid;

·       hawl i atal prosesu data ar gyfer marchnata uniongyrchol;

·       hawl i wrthwynebu penderfyniadau sy'n cael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd;

·       hawl mewn rhai amgylchiadau i ofyn i ddata personol anghywir gael eu cywiro, eu cuddio, eu dileu neu eu dinistrio;

·       hawl i iawndal am niwed a achoswyd gan achos o dorri'r ddeddf.

Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau hyn yn y ddolen isod:

https://ico.org.uk/your-data-matters/

Cysylltiadau

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a sut y caiff ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

dataprotectionofficer@llyw.cymru

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth isod

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House

Water Lane

WILMSLOW

SK9 5AF

neu ffoniwch Linell Gymorth Cymru ar 02920 678400 neu Linell Gymorth y DU ar 0303 123 1113

https://ico.org.uk/

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk