Gwerthusiad Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, Camau 2 a 3. Arolwg ar-lein gyda Aelodau o’r Gynghrair Cynhwysiant Digidol
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (CDC): Hyder Digidol, Iechyd a Lles. Nod y gwerthusiad yw adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rhaglen hyd yma ac asesu i ba raddau y mae nodau'r rhaglen yn cael eu cyflawni. Bydd Ymchwil OB3 yn casglu barn gwirfoddolwyr, cyfranogwyr yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud â darparu’r rhaglen a chynrychiolwyr o sefydliadau sydd wedi ymgysylltu â'r rhaglen.
Fel rhan o'r gwerthusiad mae OB3 am gasglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein gydag aelodau o'r Gynghrair Cynhwysiant Digidol.
Llywodraeth Cymru yw rheolwr data'r ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o'r data a gasglwyd gan Ymchwil OB3. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol sy’n cael ei ddarparu yn ystod cyfweliadau, grwpiau ffocws neu arolygon ac yn anhysbysu'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y gwerthusiad yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Ymchwil OB3 yw Nia Bryer
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol ydym ni yn ei ddal a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.
Bydd OB3 wedi gofyn i Ganolfan Cydweithredol Cymru neu sefydliad sydd wedi ymgysylltu â rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles i rannu'r linc yr arolwg ar-lein gyda gwirfoddolwyr a chyfranogwyr sydd wedi ymgysylltu â'r rhaglen. .
Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi ac ni fydd eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu cofnodi'n awtomatig drwy gymryd rhan yn yr arolwg. Bydd yr arolwg ar-lein yn gofyn a fyddech yn barod i gyfrannu ymhellach at yr adolygiad. Bydd gwneud hynny ar sail wirfoddol a gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt yn yr arolwg os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn camau diweddarach – gallwch barhau i gymryd rhan yn yr arolwg heb ddarparu manylion cyswllt.
Os gofynnir i chi gymryd rhan yng nghamau diweddarach y gwerthusiad (cyfweliad neu grŵp ffocws) bydd hysbysiad preifatrwydd ar wahân yn ymdrin â hyn. Mae eich cyfranogiad mewn unrhyw ran o'r ymchwil yn y dyfodol yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael eich atgoffa, anfonwch eich atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a gewch gan OB3.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?
Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hon, er enghraifft:
• mewn adroddiadau diweddaru blynyddol i fireinio gweithrediad y cynllun yn barhaus
• llywio arferion yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond aelodau o'r tîm ymchwil sy'n cael mynediad at y data hwn, ac mae mynediad i'r data hwn yn amodol ar yr un arferion diogelwch â'r holl ddata arall a ddelir gan Ymchwil OB3. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 ardystiad Cyber Essentials.
Wrth gynnal arolygon, mae Ymchwil OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Meddalwedd SNAP. Rydym wedi sicrhau bod SNAP yn cydymffurfio â GDPR ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd. Caiff yr holl ddata ei brosesu o fewn yr AEE ac mae'n cael ei ddileu o weinydd meddalwedd SNAP cyn gynted ag y caiff ei lawrlwytho i weinydd Ymchwil OB3 i'w ddadansoddi.
Mae gan Ymchwil OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri'r rheolau, bydd Ymchwil OB3 yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael eu dileu. Bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?
Gall Ymchwil OB3 ddal data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd Ymchwil OB3 yn darparu fersiwn anhysbys o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi.
Hawliau unigol
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r [prosiect] hwn, mae gennych chi'r hawl:
· Cyrchu copi o'ch data eich hun
· I ni unioni gwallau yn y data hwnnw
· Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
· Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a
· Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:
Enw: Siân Williams
Cyfeiriad e-bost: Sian.Williams50@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 253991
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.