Ymchwil i gefnogi'r gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond: Cyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid a staff mewn Sefydliadau Addysg Uwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research (OB3) a Miller Research, i gynnal ymchwil i gefnogi gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond i Addysg Uwch yng Nghymru. Nod yr ymchwil hon yw darparu tystiolaeth i gefnogi asesiad o dri amcan cyntaf Diwygiadau Diamond:
Ehangu mynediad i Addysg Uwch.
Cryfhau darpariaeth ran-amser.
Cryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig.
Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd OB3 a Miller Research yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid a staff allweddol mewn Sefydliadau Addysg Uwch.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 a Miller Research yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai, ac yn dienwio'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3, Miller Research a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yw Nia Bryer (OB3 Research).
Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@ob3research.co.uk
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?
Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.
Darparwyd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i OB3 a Miller Research gan Lywodraeth Cymru neu gan Medr ar ran Llywodraeth Cymru. Yn y ddau achos, cedwir eich manylion oherwydd ymgysylltiad parhaus â chi ar gymorth cyllid myfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd drwy e-bost i gymryd rhan mewn cyfweliadau neu weithdai y gellir eu hwyluso ar-lein neu yn bersonol. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael eich anfon atgoffa ar unrhyw gam, yna atebwch i'r e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych ac eithrio eich delwedd os ydych chi'n cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio fideo.
Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau a gweithdai am resymau gweithredol. Os yw hyn yn wir, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r drafodaeth ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Dim ond os nad fydd unrhyw wrthwynebiad gan unrhyw gyfranogwyr y bydd gweithdy yn cael ei recordio. Os recordir trafodaethau, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chofnodir trafodaethau, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
· archwilio effeithiau ariannol a gweithredol darpariaeth ran-amser ar sefydliadau addysg uwch Cymru
· archwilio effeithiau ariannol a gweithredol darpariaeth ôl-raddedig ar sefydliadau addysg uwch Cymru
· deall pa mor dda mae pecyn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion pob dysgwr addysg uwch sy'n hanu o Gymru.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 a Miller Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gall y data gael ei gyrchu. Bydd OB3 a Miller Research yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 a Miller Research ardystiad Cyber Essentials.
Mae gan OB3 a Miller Research weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os bydd torri dan amheuaeth yn digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 a Miller Research yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd OB3 a Miller Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 a Miller Research o fewn tri mis o ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r adolygiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:
· I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
· I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
· I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
· I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
· Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Emma Hall
Cyfeiriad e-bost: emma.hall001@gov.wales
Rhif ffôn: 03000258673
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru.