Gwerthusiad o ganllawiau statudol Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) a chynllun peilot cronfa ddata CME: cyfweliadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3), mewn cydweithrediad â Miller Research, i werthuso'r canllawiau statudol addysg gartref ddewisol (EHE) a'r peilot cronfa ddata plant sy'n colli addysg (CME). Nod rhan gyntaf y gwerthusiad hwn yw archwilio pa mor effeithiol yw'r canllawiau statudol EHE wrth gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag EHE. Nod yr ail ran yw deall i ba raddau y mae rheoliadau cronfa ddata CME wedi bod yn effeithiol wrth gynorthwyo'r awdurdodau lleol peilot i nodi CME.

Fel rhan o waith maes y gwerthusiad, mae OB3 a Miller Research yn dymuno siarad â rhanddeiliaid mewn awdurdodau lleol sy'n gweithio ar faterion EHE (e.e. Swyddogion Arweiniol EHE, Swyddogion Diogelu, Pennaeth gwasanaethau Mynediad/Cynhwysiant ac ymarferwyr ysgol) trwy gyfweliadau i ddeall darpariaeth ac effeithiolrwydd y canllawiau statudol EHE ac a oes angen unrhyw welliannau i ddatblygu'r canllawiau ymhellach.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 a Miller Research yn dileu unrhyw ddata personol cyn rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru, gan OB3, Miller Research, a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn OB3 yw Heledd Bebb

Rhif ffôn: 07815 772242

Cyfeiriad e-bost: heledd.bebb@ob3research.co.uk

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym ni’n cael y wybodaeth hon?

Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.

Mae gan OB3 a Miller Research eich enw a'ch cyfeiriad e-bost oherwydd:

  • fe'u darparwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dal eich gwybodaeth oherwydd eich ymwneud â nhw ynghylch y canllawiau statudol Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE)

  • neu gofynnwyd i chi gymryd rhan gan eich awdurdod lleol ac fe wnaethant drosglwyddo eich manylion cyswllt gyda'ch caniatâd.

Dim ond at ddibenion cysylltu â chi fel rhan o'r prosiect ymchwil hwn y bydd OB3 a Miller Research yn defnyddio eich manylion cyswllt. Cysylltir â chi i drefnu cyfweliad. Efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad neu weithdy pellach yn ddiweddarach yn yr ymchwil, ac os felly y bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn hysbysiad preifatrwydd ar wahân.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu derbyn negeseuon atgoffa ar unrhyw gam, yna atebwch yr e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych, heblaw am eich delwedd os ydych chi'n cytuno i recordiad fideo o'r cyfweliad.

Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os yw hyn yn wir, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os recordir cyfweliad, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chofnodir trafodaethau, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.

Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogi yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

  • deall sut mae canllawiau statudol Addysg Dewisol yn y Cartref yn cael eu cyflwyno

  • awgrymu rhagor o randdeiliaid i ymgysylltu â'r ymchwil

  • archwilio effeithiolrwydd canllawiau statudol Addysg Dewisol yn y Cartref

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 a Miller Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn gall gyrchu’r data.  Bydd OB3 a Miller Research yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 a Miller Research ardystiad Cyber Essentials. 

Mae gan OB3 a Miller Research weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os fydd hyn yn digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod amdano i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 a Miller Research yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i baratoi adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd OB3 a Miller Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn cael ei ddileu gan OB3 a Miller Research o fewn tri mis i’r cytundeb ddod i ben. Bydd hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt lle gwnaethoch eu darparu.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n eu darparu fel rhan o'r adolygiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Zoe Williams

Cyfeiriad ebost: zoe.williams002@gov.wales

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru.