Gwerthusiad o'r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW)
Sefydliadau partner sy’n ymwneud â phrosiectau a ariennir (astudiaethau achos)
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â BRO Partnership, i gynnal gwerthusiad o’r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW). Nod y gwerthusiad hwn yw asesu os yw’r rhaglen wedi cyflawni ei nodau a’i hamcanion ochr yn ochr â’r canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol a gyflawnwyd drwy’r dull cyflawni cydweithredol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu effeithiolrwydd y cynllun grant o ran cyflawni polisïau, strategaethau a gofynion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014-2020.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â BRO Partnership, yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau â sefydliadau partner sy’n ymwneud a phrosiectau a ariennir gan ENRaW er mwyn datblygu astudiaethau achos ar brosiectau penodol a ariennir gan y grant.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Ymchwil OB3 yw Nia Bryer:
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol ydym ni yn ei ddal a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership wedi derbyn eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) oddi wrth:
· Llywodraeth Cymru, sydd wedi cadw eich manylion oherwydd eich cysylltiad â phrosiect ENRaW; neu
· y sefydliad Partner Arweiniol y gwnaethoch ymgysylltu ag ef fel rhan o'ch cysylltiad â Rhaglen Grant ENRaW, sydd â'ch manylion oherwydd y cyfranogiad hwn.
Pan gysylltir â chi bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn rhoi gwybod i chi gan bwy y cawsant eich manylion.
Ni fydd unrhyw ddata personol ychwanegol yn cael ei gasglu fel rhan o’r ymchwil ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i gyfweliad gael ei recordio. Dymunwn recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership ond yn defnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?
Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 a BRO Partnership bob amser yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn defnyddio’r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership ardystiad Cyber Essentials.
Mae gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a byddant yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Parntership yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod y trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych chi'r hawl:
· Cyrchu copi o'ch data eich hun
· I ni unioni gwallau yn y data hwnnw
· Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
· Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a
· Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Marcus Hill
Cyfeiriad e-bost: Marcus.Hill@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 256737
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.