Gwerthusiad o'r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) – Gwaith maes gydag Ymgeiswyr am Gyllid
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â BRO Partnership, i gynnal gwerthusiad o’r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW). Nod y gwerthusiad hwn yw asesu os yw’r rhaglen wedi cyflawni ei nodau a’i hamcanion ochr yn ochr â’r canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol a gyflawnwyd drwy’r dull cyflawni cydweithredol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu effeithiolrwydd y cynllun grant o ran cyflawni polisïau, strategaethau a gofynion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014-2020.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd Ymchwil OB3, ar y cyd â BRO Partnership, yn casglu gwybodaeth wrth ymgeiswyr am gyllid, boed yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus. Bydd y wybodaeth yma yn cael ei gasglu drwy’r dulliau canlynol:
· arolwg gyda'r holl ymgeiswyr am gyllid
· cyfweliadau â sampl o ymgeiswyr am gyllid aflwyddiannus
· cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phob arweinydd prosiect llwyddiannus ac unigolion sy'n ymwneud â’r prosiect ar un o ddau bwynt amser
· arolwg dilynol gydag arweinwyr prosiectau ac unigolion allweddol.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Ymchwil OB3 yw Nia Bryer:
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol ydym ni yn ei ddal a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership wedi derbyn eich manylion cyswllt gan Lywodraeth Cymru, ar ffurf enw, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion oherwydd gwnaethoch eu darparu pan wnaethoch gais am gyllid drwy grant ENRaW. Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.
Bydd Ymchwil OB3 Research yn e-bostio dolen atoch i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg o'r holl ymgeiswyr am gyllid ENRaW. Nid yw'r arolwg yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi. Nid yw cwblhau'r arolwg yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac felly bydd yr ymatebion yn ddienw.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Mae Ymchwil OB3 a BRO Partnership hefyd yn dymuno ymgymryd â gweithgaredd ymchwil ychwanegol gydag ymgeiswyr aflwyddiannus a llwyddiannus:
Cyfweliadau gyda ymgeiswyr cyllid aflwyddiannus
Os gwnaethoch gais am gyllid ond yr oeddech yn aflwyddiannus, bydd gennych gyfle yn yr arolwg i nodi os ydych yn hapus i ni gysylltu â chi am gyfweliad. Os wnewch nodi eich bod yn hapus i ni gysylltu ymhellach â chi at y diben hwn, gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt fel y gall Ymchwil OB3 a BRO Partnership eu defnyddio i gysylltu â chi i drefnu cyfweliad.
Nid yw'r cyfweliad yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ar wahân i'ch delwedd os ydych yn cytuno i gyfweliad neu grŵp ffocws gael ei recordio ar fideo. Efallai y bydd angen i ni recordio'ch cyfweliad am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliad.
Cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda ymgeiswyr cyllid llwyddiannus
Fel rhan o'r gwerthusiad, mae Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn ymgysylltu â'r holl brosiectau a gymeradwywyd ar gyfer cyllid ENRAW. Os ydych chi’n arweinydd neu’n unigolyn sy’n ymwneud â chyflawni prosiect sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer cyllid, yna byddwn yn cysylltu â chi i gymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws ar ryw adeg yn ystod y gwerthusiad, bydd y cyfweliad neu grŵp ffocws yn digwydd naill ai yn ystod 2022 neu 2023.
Nid yw'r cyfweliadau a'r grwpiau ffocws yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ar wahân i'ch delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws gael ei recordio ar fideo. Efallai y bydd angen i ni recordio grwpiau ffocws a chyfweliadau am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Dim ond os yw holl aelodau'r grŵp yn fodlon i hyn ddigwydd y caiff grŵp ffocws ei recordio. Os caiff grwpiau ffocws neu gyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn dilyn y grŵp ffocws neu gyfweliadau.
Arolwg canlyniadiadau prosiect gyda ymgeiswyr cyllid llwyddiannus
Yn 2023, bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership hefyd yn cysylltu ag arweinwyr ac unigolion allweddol sy’n ymwneud a chyflawni prosiectau sydd wedi’u eu hariannu i gymryd rhan mewn arolwg dilynol i ddeall canlyniadau prosiectau. Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi. Nid yw cwblhau'r arolwg yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac felly bydd yr ymatebion yn ddienw.
Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?
Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglir gan yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei ddefnyddio i:
• Asesu sut mae’r rhaglen wedi cyflawni yn erbyn blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
• Helpu i lywio datblygiad mecanweithiau ariannu ar ôl 2023.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 a BRO Partnership bob amser yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn defnyddio’r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership ardystiad Cyber Essentials.
Wrth gynnal arolygon, mae Ymchwil OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw meddalwedd SNAP. Rydym wedi sicrhau bod meddalwedd SNAP yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd a bod yr holl ddata’n cael ei brosesu yn y DU.
Mae gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a byddant yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Parntership yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?
Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i dynnu o ymatebion arolwg penagored neu wrth drawsgrifio cyfweliadau neu grwpiau ffocws yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership dri mis ar ôl diwedd cyfnod y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.
Hawliau unigol
O dan UK GDPR , mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych chi'r hawl:
· Cyrchu copi o'ch data eich hun
· I ni unioni gwallau yn y data hwnnw
· Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
· Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a
· Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Marcus Hill
Cyfeiriad e-bost: Marcus.Hill@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 256737
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.