Welsh_Government_logo.jpg

Gwerthusiad o'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg – arolwg ar-lein gyda chyflogwyr a gweithwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 i gynnal gwerthusiad o’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Nod y gwerthusiad hwn yw:

  • archwilio allbynnau'r rhaglen

  • deall canlyniadau ac effeithiau'r rhaglen i gyflogwyr

  • deall canlyniadau ac effeithiau'r rhaglen i weithwyr

  • ystyried sut y gellid gwella'r rhaglen yn y dyfodol.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Ymchwil OB3 yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein gyda chyflogwyr a gweithwyr.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Ymchwil OB3 yw Heledd Bebb

Cyfeiriad e-bost: heledd@ob3research.co.uk

Rhif ffôn: 07815 772242

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Bydd sut y cawsoch eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil yn dibynnu a ydych yn cwblhau’r arolwg fel cyflogwr neu gyflogai:

Cyflogwyr - mae Ymchwil OB3 wedi derbyn eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a, lle bo ar gael, rhif ffôn) gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth oherwydd eich cais am gymorth ariannol gan y Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Bydd Ymchwil OB3 ond yn defnyddio eich manylion cyswllt i e-bostio dolen arolwg atoch ac i anfon nodiadau atgoffa.

Byddwch yn derbyn hyd at ddwy neges e-bost atgoffa a ffôn dilynol, lle darparwyd eich rhif ffôn gan Lywodraeth Cymru. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa, yna rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost neu'r rhif ffôn a ddarparwyd a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Gweithwyr – nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt. Mae eich cyflogwr wedi rhoi dolen yr arolwg i chi er mwyn i chi allu cwblhau'r arolwg fel cyfranogwr mewn hyfforddiant sydd wedi'i gefnogi'n ariannol gan y Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Nid yw eich cyflogwr yn gweld canlyniad yr arolwg gan fod y rhain yn mynd yn uniongyrchol i Ymchwil OB3.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Nid yw cwblhau'r arolwg yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac, o ganlyniad, mae eich ymatebion yn ddienw.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r arolwg yna byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich hunaniaeth â nhw. Dim ond i Ymchwil OB3 y mae canlyniadau'r arolwg llawn ar gael.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, i ddatblygu argymhellion ar gyflwyno'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ac ymyriadau sgiliau yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 ardystiad hanfodion seiber.

Wrth gynnal arolygon, mae Ymchwil OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg a elwir yn arolygon SNAP. Rydym wedi sicrhau bod arolygon SNAP yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd.

Mae gan Ymchwil OB3 weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri rheolau, bydd Ymchwil OB3 yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae gofyniad cyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Ymchwil OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd Ymchwil OB3 yn rhoi fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);

  • Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Sean Homer

Cyfeiriad e-bost: Sean.Homer001@llyw.cymru

Rhif ffôn: 0300 025 4045

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.