Gwerthusiad Cynllun Codi Hyder Iechyd a Gofal

Mae Ymchwil OB3 wedi’i gomisiynu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) i gynnal gwerthusiad o’r Cynllun Codi Hyder Iechyd a Gofal. Nodau’r gwaith hwn yw:

  • archwilio llwyddiant y cynllun

  • mesur effaith a thraweffaith y cynllun er mwyn penderfynu ar raglenni posibl a all ffurfio rhan o gynllun strategol Codi Hyder y Ganolfan i’r dyfodol

  • darparu argymhellion ar gyfer cynlluniau i ymwneud â'r gwaith sectorol hwn i’r dyfodol.

Fel rhan o'r adolygiad hwn bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau a grwpiau trafod gyda staff y Ganolfan, byrddau iechyd, darparwyr, rhanddeiliaid a chyfranogwyr, yn ogystal â thrwy arolwg o gyfranogwyr.

Y Ganolfan yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau, grwpiau ffocws a’r arolwg, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â’r Ganolfa Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a ddarperir i’r Ganolfan ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a’r Ganolfan.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio strategaethau’r Ganolfan.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer

Cyfeiriad e-bost: nia.bryer@ob3research.co.uk

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Rhoddwyd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost i OB3 gan y Ganolfan, sy’n dal eich gwybodaeth oherwydd ymgysylltiad parhaus â chi fel rhan o weithrediad y Cynllun Codi Hyder. Dim ond at ddiben yr adolygiad hwn y bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth hon.

Gwahoddir cyfranogwyr trwy e-bost i gymryd rhan mewn cyfweliad, grŵp trafod neu arolwg ar-lein. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac eithrio ar gyfer eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo.

Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd y Ganolfan.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i’r Ganolfan gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei allu i gyflawni ei blaenoriaethau. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i wneud argymhellion ar fodel darparu’r Cynllun Codi Hyder yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn. Mae gan OB3 ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan OB3 weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o dorri amodau, bydd OB3 yn adrodd am hyn i’r Ganolfan a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd at ddefnydd mewnol yn unig yn y Ganolfan. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi'i ddileu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd OB3 yn darparu fersiwn dienw o’r data i’r Ganolfan na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Hawliau unigol

O dan GDPR DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:

  • I gyrchu copi o'ch data eich hun

  • I ni unioni gwallau yn y data hwnnw

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)

  • I'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan y Ganolfan neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Laura Wyn Jones, Prif Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal (Cymraeg Gwaith)

Cyfeiriad e-bost: laura.wyn.jones@dysgucymraeg.cymru

Rhif ffôn: 0300323 4324

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedaethol ar:

Cyfeiriad e-bost: heledd.iorwerth@dysgucymraeg.cymru

Rhif ffôn: 0300323 4324