Gwerthusiad o aelodaeth Llywodraeth Cymru o Raglen Cyswllt Diwydiannol Massachusetts Institute of Technology (MIT-ILP) - Cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda chynrychiolwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal gwerthusiad o’i haelodaeth o Raglen Cyswllt Diwydiannol Massachusetts Institute of Technology (MIT-ILP) dros gyfnod o bum mlynedd rhwng 2019 a 2024.
Nod y gwerthusiad yw archwilio'r effeithiau ar Gymru o gymryd rhan yn yr ILP. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno adolygu os ydyw wedi sicrhau gwerth am arian o’i buddsoddiad dros y pum mlynedd diwethaf a gwneud penderfyniad ynghylch ei chysylltiad parhaus â MIT-ILP.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda chynrychiolwyr y rhaglen.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad sydd at ddefnydd mewnol yn unig ac ni fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad tuag at yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer.
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.
Bydd OB3 wedi derbyn eich manylion cyswllt gan Lywodraeth Cymru, ar ffurf enw, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost, fel cynrychiolydd sydd wedi cymryd rhan yn yr MIT-ILP. Mae’r data cyswllt hyn wedi’u cadw oherwydd cyswllt parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a’ch sefydliad. Rydych wedi cytuno i'ch manylion cyswllt gael eu darparu i OB3. Bydd OB3 ond yn defnyddio eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.
Nid oes unrhyw ofyniad i ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol yn ystod cyfweliadau heblaw eich delwedd os ydych yn cytuno i recordiad fideo o'r cyfweliad. Efallai y byddwn am recordio cyfweliadau am resymau gweithredol – bydd hyn yn recordiad fideo neu recordiad sain os cynhelir y cyfweliad dros y ffôn. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn y cyfweliad, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff y cyfweliad ei recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a caiff eich manylion yn cael eu dileu.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn. Mae gan OB3 ardystiad Cyber Essentials.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o dorri rheolau, bydd OB3 yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi'i ddileu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd OB3 yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.
Hawliau unigol
O dan GDPR DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:
I gyrchu copi o'ch data eich hun
I ni unioni gwallau yn y data hwnnw
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
I'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a
Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Matthew Collins
Cyfeiriad e-bost: matthew.collins@gov.wales
Rhif ffôn: 07884 586919
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.