Gwerthusiad o Gymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy (CaW a CaW+)

Gwerthusiad Terfynol: Cyfweliadau ansoddol gyda chyfranogwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 ar y cyd â Pobl a Gwaith, IFF Research, Prifysgol Caerdydd a Dateb (Ymchwil OB3 a phartneriaid), i gynnal gwerthusiad o Cymunedau am Waith (CfW) a Chymunedau am Waith a Mwy (CfW+). Nod y gwerthusiad yw asesu effaith y ddwy raglen a'r canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer cyfranogwyr.

Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Ymchwil OB3 a phartneriaid yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau lled-strwythuredig gyda chyfranogwyr sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni CfW a CfW+.  

Llywodraeth Cymru yw rheolwr data'r ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o'r data a gasglwyd gan Ymchwil OB3 a phartneriaid. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 a phartneriaid yn dileu unrhyw ddata personol sy’n cael ei ddarparu yn ystod cyfweliadau, ac yn anhysbysu'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y gwerthusiad yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a phartneriaid, a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Ymchwil OB3 yw Nia Bryer:

Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk

Rhif ffôn: 07792 609821

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol ydym ni yn ei ddal a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae Ymchwil OB3 mewn cydweithrediad â Pobl a Gwaith, IFF Research, Prifysgol Caerdydd a Dateb (Ymchwil OB3 a phartneriaid) wedi derbyn eich manylion cyswllt a data personol arall fel a ganlyn:

  • enw

  • cyfeiriadau e-bost

  • rhif ffôn

  • Rhif adnabod cyfranogwr

  • Rhif dysgwr unigryw

  • Rhyw

  • Ethnigrwydd

  • Dyddiad Geni

  • Cyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith

  • Statws anabledd

Mae’r data wedi dod i law oddi wrth:

  • Ar gyfer cyfranogwyr CfW, o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae'n ofynnol i bob gweithrediad a ariennir gan ESF roi manylion eu cyfranogwyr i WEFO.

  • Ar gyfer cyfranogwyr CfW+, o Awdurdodau Lleol Cymru sy'n cadw eich gwybodaeth fel cyfranogwr o'r cynllun ac y mae'n ofynnol iddynt ddarparu manylion cyfranogwyr y cynllun i Lywodraeth Cymru.

Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Ymchwil OB3 a phartneriaid yn defnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo. Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon iddo gael ei recordio. Os cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb defnyddir dictaffon i recordio. Os cânt eu cynnal yn rhithwir, bydd Microsoft Teams yn cael ei ddefnyddio a bydd cyfweliadau'n cael eu recordio ar fideo trwy'r platfform hwn. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl cyfweliadau. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Gelwir rhai o'r data yr ydym yn ei gasglu yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn data ethnigrwydd ac anabledd/iechyd) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei fod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio:

  • mireinio gweithrediad y cynllun yn barhaus

  • llywio arfer yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 a phartneriaid bob amser yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Mae'r holl gyfweliadau a recordiwyd a wneir ar Dictaphones yn cael eu storio bob amser yn OB3 neu swyddfeydd partneriaid mewn cypyrddau diogel, dan glo. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 a phartneriaid yn defnyddio’r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 a'r holl bartneriaid ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan Ymchwil OB3 a phartneriaid weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd OB3 yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?

Gall Ymchwil OB3 a phartneriaid ddal data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 a phartneriaid dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd Ymchwil OB3 yn darparu fersiwn anhysbys o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi.

Hawliau unigol

O dan GDPR DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:

  • Cyrchu copi o'ch data eich hun

  • I ni unioni gwallau yn y data hwnnw

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)

  • Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Enw: Joshua Parry

Cyfeiriad e-bost: Joshua.Parry001@gov.wales

Rhif ffôn: 03000252574

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.