Welsh_Government_logo.jpg

Gwerthuso PaCE

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Cyf (OB3) i gynnal gwerthusiad o raglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE). Nod y gwerthusiad hwn yw ystyried a yw PaCE yn cael ei weithredu yn ôl y disgwyl ac i greu darlun o effeithiolrwydd y rhaglen wrth helpu cyfranogwyr i gyflawni canlyniadau cynaliadwy. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau ac yn dienwi data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer

Cyfeiriad e-bost: Nia@ob3research.co.uk

Rhif ffôn: 01558 822 922

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa fanylion personol sydd gennym a ble cawsom eich manylion?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â datgelu pwy ydy rhywun y gellir ei uniongyrchol neu'n anuniongyrchol eu hadnabod drwy gyfeirio at ddynodwr'.

Mae'r wybodaeth bersonol sydd i'w darparu i OB3 gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys y data personol canlynol:

  • eich enw;

  • dyddiad geni;

  • rhif yswiriant gwladol;

  • rhif dysgwyr unigol;

  • manylion cyswllt (cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost);

  • ethnigrwydd, statws mewnfudwr ac anabledd. 

Casglwyd y data yma pan ymunoch chi â PaCE yn wreiddiol.

Fel rhan o'r ymchwil hwn byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol ychwanegol ganlynol:

  • Manylion eich cyflogaeth.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn hysbysiadau atgoffa, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn a ddarperir, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd OB3 ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.

Os ydych chi'n dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio eich adnabod neu gysylltu eich hunaniaeth â'r ymatebion rydych chi'n eu darparu. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o'r data ymchwil.

Bydd cyfweliadau'n cael eu recordio a gwneir nodyn o'r pethau a drafodwyd. Bydd data personol a allai eich adnabod yn cael ei ddileu o'r nodyn a wneir a dilëir recordiadau o gyfweliadau.

Efallai y bydd angen i ni recordio rhai cyfweliadau am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r cyfweliad gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Caiff y recordiadau eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn dilyn cyfweliadau. 

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu’r data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, gweithredu ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhai o'r data rydym yn eu casglu yn ‘ddata categori arbennig’ (er enghraifft eich ethnigrwydd a’ch statws anabled er enghraifft) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei fod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio i ddadansoddi nodweddion pobl sy'n cymryd rhan yn PaCE ac i ddeall effeithiau ac effeithiolrwydd y rhaglen

Pa mor ddiogel fydd unrhyw ddata personol a gyflwynir?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar serfiwr diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad at y data. Bydd deunydd materol, fel nodiadau neu ddyfeisiau recordio, yn cael eu cadw dan glo yn swyddfeydd OB3 neu ei is-gytundebwyr. Mae gan OB3 a’i is-gytundebwyr ardystiad seiber hanfodion.

Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion lle mae amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri diogelwch, bydd OB3 yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol inni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hwn yn cael ei adrodd yn ddienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth y gellir ei hadnabod mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am faint ydym yn cadw unrhyw ddata personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y cytundeb, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan OB3 dri mis ar ôl i'r cytundeb ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd OB3 yn rhoi fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi.

Eich hawliau

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych yr hawl i:

  • Cael gafael ar gopi o'ch data eich hun;

  • Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • Eich data gael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r ymchwil hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Launa Anderson (Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth, Llywodraeth Cymru)

Rhif ffô: 03000 259 274

Cyfeiriad e-bost: Launa.Anderson@gov.wales

Y cytundebwr ar gyfer y gwerthusiad hwn yw Nia Bryer.

Rhif ffôn: 01558 822 922

Cyfeiriad e-bost: Nia@ob3research.co.uk

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.