Gwerthusiad o'r Gronfa Tai â Gofal
Cyfweliadau â rhanddeiliaid a phrosiectau a ariennir
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research (OB3), mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru Cyf (PDC) i gynnal gwerthusiad o'r Gronfa Tai v Gofal (HCF).
Mae'r HCF yn rhaglen gyfalaf sy'n cefnogi datblygiad tai a llety â chymorth ar gyfer pobl a caiff eu tan-gynrychioli ag sydd ag anghenion cymorth gofal. Cyflwynwyd y gronfa yn 2022/23, gyda chyllideb flynyddol o £60.5 miliwn, fel rhaglen ataliol i gefnogi unigolion ag anghenion gofal a chymorth i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau.
Nod y gwerthusiad yw adolygu gweithrediad ac effeithiau’r HCF er mwyn llywio datblygiad polisi a rhaglenni yn y maes tai gyda chymorth a gofal yn y dyfodol.
Fel rhan o'r ymchwil hon bydd OB3 a PDC yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau ag unigolion sy'n ymwneud â chyflawni a rheoli'r HCF a phrosiectau a ariennir.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 a PDC yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau ac yn dienwi'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3, PDC a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn OB3 yw Nia Bryer.
Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol ydym yn ei gadw a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?
Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.
Darparwyd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i OB3 a PDC naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sy'n cadw eich gwybodaeth oherwydd ymgysylltiad parhaus â chi mewn perthynas â darparu'r HCF yng Nghymru. Dim ond at ddibenion yr adolygiad hwn y bydd OB3 a PDC yn defnyddio'r wybodaeth hon.
Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn neges atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych heblaw am eich delwedd os ydych chi'n cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo.
Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os bydd cyfweliadau'n cael eu recordio, caiff data personol ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Os wnewch chi godi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac wedi hynny yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
· archwilio sut mae'r HCF wedi'i weithredu, ei weinyddu a'i reoli
· deall y cynnydd a wnaed gan brosiectau a ariennir
· deall y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir yn eu gwneud i'w poblogaethau targed
· llywio cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 a PDC bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd OB3 a PDC yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 a Gwasanaethau Masnachol Cyf PDC ardystiad hanfodion seiber.
Mae gan OB3 a PDC weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod toriad wedi digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru ac i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 a PDC yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd OB3 a PDC yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw'n cael ei dynnu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 a PDC o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r ymchwil hon, yn benodol mae gennych yr hawl:
· I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
· I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
· I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
· I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); ac
· I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Benjamin Lewis
Cyfeiriad e-bost: Benjamin.Lewis006@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 257438
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.
