Adolygiad o Wasanaethau Cymorth Entrepreneuraidd gan Hybiau Menter Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 Cyf (OB3) i gynnal adolygiad o’r Rhaglen Gwasanaehau Cymorth Entrepreneuraidd gan Hybiau Menter Llywodraeth Cymru (Y Rhaglen).
Nod yr adolygiad hwn yw ystyried rôl yr Hybiau wrth ddiwallu anghenion entrepreneuriaid a busnesau sy'n dod i'r amlwg yn ystod eu cyfnod cynnar. Bydd yr adolygiad yn helpu swyddogion a Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch y cymorth sydd ei angen, a'r cymorth y dylid ei ddarparu yn lleol ac yn rhanbarthol. Bydd hefyd yn llywio rôl y Rhaglen o fewn yr ecosystem entrepreneuraidd yn y dyfodol. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd OB3 yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau, arolygon a gweithdai.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y gwerthusiad. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a roddir drwy’r cyfweliadau, yr arolygon a'r gweithdai ac yn gwneud y data crai yn ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn y gwerthusiad hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau’n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt yn OB3 ar gyfer y gwerthusiad hwn yw Nia Bryer.
Cyfeiriad e-bost: nia.bryer@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd'.
Rhoddwyd eich manylion cyswllt (enw, sefydliad a chyfeiriad e-bost) i OB3 gan y Tîm Entrepreneuriaeth a Chyflawni yn Llywodraeth Cymru, sy'n cadw eich manylion oherwydd eich bod yn gysylltiedig â'r Rhaglen neu'n gweithio gyda’r Rhaglen.
Er mwyn cynnal y gwerthusiad hwn bydd angen inni ddefnyddio eich enw, eich sefydliad, teitl eich swydd, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhifau ffôn. Nid oes angen casglu data personol ychwanegol gennych ar gyfer y gwerthusiad hwn, ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo. Efallai y byddwn am gofnodi cyfweliadau am resymau ymarferol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir ichi cyn i'r recordiad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei chofnodi. Os caiff y cyfweliad ei gofnodi, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi cael ei chwblhau. Os na chaiff y cyfweliad ei gofnodi, bydd y cyfwelydd yn gwneud nodiadau ar eich ymatebion. Ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a wneir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol, ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na derbyn nodyn atgoffa, ymatebwch i'r e-bost gwahodd a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Os ydych yn rhoi data personol wrth ofyn cwestiwn neu wneud cwyn sy’n mynnu ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o ddata’r gwerthusiad.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn ystod yr ymarfer casglu data hwn yw er mwyn arfer ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae gwerthusiadau fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Er enghraifft, gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y gwerthusiad hwn i wneud y canlynol:
· Deall pa mor dda mae'r Rhaglen yn gweithio
· Deall effaith y Rhaglen ac os oes unrhyw fylchau yn y cymorth
· Helpu swyddogion Llywodraeth Cymru i gynllunio modelau darparu ar gyfer entrepreneuriaeth ieuenctid yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a roddir i OB3 yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all weld y data. Mae Ymchwil OB3 Cyf wedi cael ei ardystio gan Cyber Essentials.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion honedig o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir achos o dorri'r rheolau, bydd OB3 yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn, a byddwn ni’n eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol yn unol â gofynion y gyfraith.
Dim ond at ddibenion y prosiect gwerthuso hwn y bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn. Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r gwerthusiad hwn yn cael ei gofnodi mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth sy’n dangos pwy ydych chi mewn atebion penagored yn cael ei dileu.
Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol?
Dim ond yn ystod y prosiect a chyhyd ag y mae'n cymryd OB3 i ysgrifennu'r adroddiad gwerthuso y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu data. Caiff unrhyw ddata personol ei ddileu gan OB3 chwe wythnos ar ôl diwedd y contract.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU (Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU) mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi fel rhan o’r gwerthusiad hwn:
· Gweld copi o’ch data eich hun;
· Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
· Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau);
· Gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau);
· Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut bydd y data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â:
Cheryl Holland
Cyfeiriad e-bost: cheryl.holland001@llwy.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 3188
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.