Gwerthuso’r Gronfa Gofal Integredig (Cyfweliadau â defnyddwyr gwasanaethau)

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 mewn partneriaeth â Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) i gynnal gwerthusiad annibynnol o ochr refeniw'r Gronfa Gofal Integredig (y Gronfa). Bydd y gwerthusiad hwn o'r Gronfa yn archwilio ei heffaith o ran creu newid mewn systemau ac ymddygiad er mwyn gwella'r gallu i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl. Bydd y contract yn canolbwyntio'n benodol ar brosiectau a gwasanaethau a gefnogir drwy’r Gronfa rhwng 2016 a 2021.

I gasglu'r wybodaeth hon, hoffem siarad â defnyddwyr gwasanaethau sydd wedi defnyddio prosiectau neu wasanaethau’r Gronfa, er mwyn cael eich barn ar y cymorth a gawsoch gan y prosiect neu'r gwasanaeth, a'ch profiad o’r cymorth hwnnw. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru, a chyhoeddiadau eraill o bosibl, gan Ymchwil OB3, WIHSC a Llywodraeth Cymru. Pan fyddant yn cael eu cyhoeddi, gallwch eu darllen ar https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil

Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 a WIHSC yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ystod y cyfweliadau ac yn sicrhau bod data ac adroddiadau sy’n cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru yn anhysbys.

Mae eich cyfranogiad yn y gwerthusiad yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mewn llywio polisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa fanylion personol a gedwir gennym ac o ble y daeth y manylion hynny?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddynodydd”. 

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ymchwil OB3 Research WIHSC ddod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer yr ymchwil mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Nid yw  Ymchwil OB3 a WIHSC yn cadw manylion cyswllt perthnasol. Mae Ymchwil OB3 a WIHSC wedi gofyn i reolwyr a staff prosiectau anfon gwahoddiadau at bobl a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwil. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, bydd y rheolwr neu staff y prosiect/gwasanaeth yn rhoi eich manylion cyswllt i'r tîm ymchwil yn Ymchwil OB3 a WIHSC at ddibenion eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwerthusiad. Dim ond er mwyn cysylltu â defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'r gwerthusiad hwn y bydd Ymchwil OB2 a WIHSC yn defnyddio’r wybodaeth.

Nid yw'n ofynnol darparu unrhyw ddata personol ychwanegol yn ystod cyfweliadau ar wahân i'ch delwedd os byddwch yn cytuno i recordiad fideo o'r cyfweliad gael ei greu. Hoffem recordio cyfweliadau am resymau gweithredol – recordiad fideo neu recordiad sain fydd hwn fel arfer os cynhelir y cyfweliad dros y ffôn. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff y drafodaeth ei recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Caiff recordiadau eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff y drafodaeth ei recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig.

Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn ac y byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei dileu o'r data ymchwil.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu dderbyn e-byst atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto am yr ymchwil hwn.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ond mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni i wella ei gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Er enghraifft, defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiolrwydd ac effaith y Gronfa ers ei chyflwyno gyntaf, a bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i helpu i lywio penderfyniadau ariannu yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw'r data personol a roddir?

Caiff gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 a WIHSC bob amser ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael mynediad at y data. Bydd ymchwilwyr cymdeithasol Ymchwil OB3 a WIHSC ond yn defnyddio’r manylion cyswllt sydd ganddynt ar gyfer y gwerthusiad ar gyfer dibenion y gwerthusiad hwn. Mae gan Ymchwil OB3 a WIHSC dystysgrifau Cyber Essentials.

Mae Ymchwil OB3 wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth bod achos o dorri drwy ddiogelwch data wedi digwydd. Os amheuir bod achos o’r fath wedi digwydd, bydd Ymchwil OB3 yn hysbysu Llywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo hynny'n ofynnol o dan y gyfraith.

Defnyddir fformat dienw ar gyfer yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod yn cael ei dileu. Bydd Ymchwil OB3 a WIHSC yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw gyfranogwr.

Am ba hyd y bydd y data personol a roddir yn cael eu cadw?

Bydd Ymchwil OB3 a WIHSC yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a chaiff unrhyw ddata personol, nad ydynt eisoes wedi cael eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio, eu dileu o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hynny’n cynnwys eich manylion cyswllt.

Eich hawliau

O dan GDPR y DU mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at eich data eich hun;

  • gofyn inni gywiro unrhyw fanylion anghywir yn y data hynny;

  • o dan amgylchiadau penodol, wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu;

  • mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol); a

  • chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Victoria Seddon (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru) 

Ffôn: 03000 628348

E-bost: victoria.seddon@llyw.cymru

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yma:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.