Adolygiad o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru 2023/2024: Cyfweliadau a Grwpiau Ffocws gyda derbynwyr presennol a blaenorol y LCA
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research (OB3) i gynnal adolygiad o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru. Y nod yw cyflwyno adolygiad annibynnol sy'n canolbwyntio ar effaith y LCA yng Nghymru, a meini prawf cymhwysedd cyfredol a gwerth y wobr, yn dilyn argymhellion y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc (CYPE) yn Senedd Cymru. Disgwylir i'r ymchwil hefyd ddarparu argymhellion ar gyfer y meini prawf cymhwysedd a'r rhaglen i lywio meddwl polisi yn y dyfodol, gan gynnwys enghreifftiau o arfer gorau, a gwersi a ddysgwyd a fydd yn helpu i ffurfio'r dystiolaeth a fydd yn bwydo i benderfyniadau sy'n ymwneud â buddsoddi yn y cynllun yn y dyfodol.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda derbynwyr presennol a blaenorol y LCA.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy'r cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai, ac yn anhysbysu'r data amrwd, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru [ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru].
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer
Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@ob3research.co.uk
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa fanylion personol a gedwir gennym ac o ble y daeth y manylion hynny?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.
Darparwyd eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn i OB3 gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru eich gwybodaeth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sefydliad dielw sy'n eiddo i'r llywodraeth sy'n gweinyddu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion yn y DU. Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion yr adolygiad hwn yn unig.
Mae eich cyfranogiad mewn cyfweliadau neu grwpiau ffocws yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu derbyn negeseoun atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws gael ei recordio ar fideo.
Efallai y bydd angen i gwneud recordiad sain neu fideo o grwpiau ffocws in a chyfweliadau am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu grŵp ffocws ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Bydd grŵp ffocws ond yn cael ei recordio dim os yw pob aelod o'r grŵp yn hapus i hyn ddigwydd. Os cofnodir grwpiau ffocws neu gyfweliadau, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na fydd trafodaethau yn cael eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y grŵp ffocws neu gyfweliadau.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon i:
Ddeall effaith yr LCA ar benderfyniad dysgwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth bellach
Ddeall effaith yr LCA ar ymgysylltiad dysgwyr â'u hastudiaethau ar ôl iddynt gofrestru
Ddeall effaith LCA ar allu dysgwyr i ymdopi â phwysau ariannol yn fwy cyffredinol, yn benodol yng ngoleuni'r argyfwng costau byw.
Ddeall pa mor bwysig yw LCA i ddysgwyr.
Ddeall barn dysgwyr ynghylch a yw'r model LCA yw'r model mwyaf effeithiol ac effeithlon i gefnogi dysgwyr yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 ardystiad cyber essentials.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri rheolau yn digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r adolygiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Emma Hall
Cyfeiriad e-bost: emma.hall001@gov.wales
Rhif ffôn: 03000258673
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, Ebost: DataProtectionOfficer@gov.cymru.