Cwmpasu a chasglu tystiolaeth ar ddarpariaeth Safon Uwch gydweithredol yn y sector addysg drydyddol Cymru – Hysbysiad Preifatrwydd

Cefndir

Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, wedi gofyn i Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal ymchwil i ddarpariaeth Safon Uwch gydweithredol yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn adnabod pa ddarpariaeth gydweithredol rhwng dau neu fwy o ddarparwyr (gan gynnwys sefydliadau addysg bellach, ysgolion ac awdurdodau lleol) sydd ar gael ar hyn o bryd a pha mor dda mae'r trefniadau hyn yn gweithio, gan gynnwys o safbwynt y dysgwyr. Bydd hefyd yn adnabod yr hyn sy'n galluogi ac yn cyfyngu'r trefniadau hyn ar hyn o bryd.

Medr yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil yma. Mae OB3 yn cynnal yr ymchwil ar ran Medr a bydd yn prosesu data personol yn unol â chyfarwyddiadau Medr.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio os byddwch yn cymryd rhan mewn arolwg, cyfweliad neu grŵp ffocws. Efallai caiff unrhyw ganfyddiadau ymchwil eu cynnwys mewn adroddiadau neu allbynnau eraill ar gyfer Medr. Bydd adroddiadau'n cael eu dienwi a'u hadolygu i leihau'r risg y gellir adnabod unigolion. Ni fydd eich enw na'ch manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi. Ni fydd sylwadau yn cael eu priodoli i unigolion a enwir heb eich cytundeb penodol.

Cymryd rhan yw eich dewis chi'n llwyr. Mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig iawn a bydd yn helpu i lywio polisïau ac arferion Medr i gefnogi darpariaeth Safon Uwch gydweithredol yn y dyfodol.

Pa ddata sy'n cael ei gasglu a sut mae'n cael ei ddefnyddio?

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod person, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Ar ran Medr, mae OB3 yn cynnal arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws i ddeall pa ddarpariaeth Safon Uwch gydweithredol sydd ar gael ar hyn o bryd, sut mae'r trefniadau hyn yn gweithio yn ymarferol, pa gostau ychwanegol y gallent eu hwynebu, beth yw dysgwyr o’r ddarpariaeth, a sut mae canlyniadau dysgwyr yn cael eu cofnodi.

Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar brofiadau a barn pobl. Bydd yn cynnwys awdurdodau lleol sy'n darparu addysg chweched dosbarth, ysgolion chweched dosbarth, sefydliadau addysg bellach, a dysgwyr – gan gynnwys y rhai sy'n cymryd rhan mewn darpariaeth Safon Uwch gydweithredol a'r rhai a ystyriodd neu a ddechreuodd gyrsiau o'r fath.

Yn ystod yr ymchwil hon, efallai y gofynnir i gyfranogwyr rannu eu barn a’u profiadau. Bydd unrhyw fanylion personol yn cael eu cadw i'r lleiafswm a'u trin yn ddiogel, gan ddilyn rheolau diogelu data.

Yn ystod yr ymchwil hwn, gall OB3 gasglu a dadansoddi'r categorïau canlynol o ddata personol:

·       Manylion cyswllt (enw, e-bost, cyfeiriad, rhif ffôn)

·       Manylion demograffig (rhyw, oedran)

·       Manylion addysg a hyfforddiant (cwrs, lefel cymhwyster)

·       Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r rhaglen (eich barn a’ch profiadau sy’n ymwneud â'ch profiad o gyflwyno neu astudio cyrsiau Safon Uwch cydweithredol)

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig ac yn cael ei thrin yn ofalus ac yn barchus.

Nid yw'r ymchwil yn bwriadu casglu data personol categori arbennig fel gwybodaeth am darddiad hiliol neu ethnig, iechyd, credoau crefyddol neu athronyddol, barn wleidyddol neu aelodaeth undeb llafur. Os byddwch yn gwirfoddoli'r math hwn o wybodaeth yn ystod yr ymchwil, bydd OB3 yn ei gwtogi neu'n ei dileu o'r cofnodion ymchwil lle nad oes ei angen. Pan fo'n angenrheidiol cadw a defnyddio data personol categori arbennig ar gyfer yr ymchwil, dim ond pan fo amod priodol o dan ddeddfwriaeth diogelu data y caiff ei brosesu.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i reoli cyfranogiad, ymgymryd a dadansoddi ymchwil, a chynhyrchu canfyddiadau ac allbynnau ymchwil ar gyfer Medr. Ni fydd eich data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata neu wneud penderfyniadau awtomataidd.

Bydd OB3 yn darparu canfyddiadau ymchwil dienw i Medr. Ni fydd Medr fel arfer yn derbyn gwybodaeth sy'n adnabod cyfranogwyr unigol. Os cynigir y dylid priodoli sylw i chi, dim ond gyda'ch cytundeb penodol y gwneir hyn.

Diogelu

Gall yr ymchwil gynnwys dysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o dan 18 oed. Bydd OB3 yn cynnal yr ymchwil yn unol â threfniadau diogelu priodol.

Nid oes disgwyl nac yn ofynnol i gyfranogwyr ddatgelu gwybodaeth bersonol am bryderon diogelu neu brofiadau o niwed fel rhan o'r ymchwil. Fodd bynnag, os yw gwybodaeth yn cael ei rhannu yn ystod yr ymchwil sy'n nodi y gallai plentyn, person ifanc neu berson arall fod mewn perygl o niwed, efallai na fydd yn bosibl cadw'r wybodaeth honno'n gyfrinachol. Lle bo angen, gellir rhannu gwybodaeth berthnasol gydag arweinydd diogelu priodol, Medr, neu sefydliad arall sy'n gyfrifol am ddiogelu, fel y gellir ystyried y pryder a chymryd camau priodol.

Dim ond gwybodaeth sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r pryder diogelu fydd yn cael ei rhannu, a bydd yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data a gweithdrefnau diogelu perthnasol.

Pan fydd dysgwyr dan 18 oed yn cymryd rhan, bydd OB3 yn darparu gwybodaeth am yr ymchwil mewn fformat priodol a hygyrch fel eu bod yn deall beth mae cymryd rhan yn ei olygu a sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data personol?

Sail gyfreithlon Medr ar gyfer prosesu eich data personol ar gyfer yr ymchwil hon yw Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, oherwydd bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. Ategir hyn gan swyddogaethau statudol Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 mewn perthynas â chynllunio, ariannu, gwella a chydlynu addysg drydyddol yng Nghymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i wella ansawdd ac argaeledd darpariaeth addysg drydyddol.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn gwbl wirfoddol. Gallwch ddewis p'un ai i gymryd rhan ai peidio a gallwch beidio cymryd rhan ar unrhyw adeg. Ni fydd dewis peidio â chymryd rhan yn effeithio arnoch chi mewn unrhyw ffordd. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr ymchwil neu dderbyn gwahoddiadau neu nodiadau atgoffa pellach, rhowch wybod i OB3 Research gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir yn y gwahoddiad.

Os byddwch yn tynnu'n ôl ar ôl cymryd rhan, efallai na fydd bob amser yn bosibl tynnu gwybodaeth sydd eisoes wedi'i dienwi neu wedi'i hymgorffori yn y dadansoddiad neu'r canfyddiadau ymchwil.

Pan fo'n angenrheidiol prosesu data personol categori arbennig, bydd amod priodol o dan Erthygl 9 GDPR y DU ac, lle bo angen, Deddf Diogelu Data 2018 hefyd yn berthnasol.

Bydd gwybodaeth bersonol y mae angen ei defnyddio neu ei rhannu oherwydd pryder diogelu yn cael ei thrin yn unol â'r sail gyfreithlon briodol o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Ni fydd cydsyniad yn cael ei ddibynnu lle mae angen defnyddio neu rannu gwybodaeth i ymateb i bryder diogelu.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd OB3 yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich data personol, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i'r rhai sydd ei angen at ddibenion yr ymchwil a defnyddio mesurau diogelwch technegol a sefydliadol priodol.

Mae OB3 yn storio'ch data ar weinyddion cwmwl wedi'u lleoli yn y DU ac yn defnyddio amgryptio a mynediad cyfyngedig. Mae gan OB3 ardystiad Cyber Essentials Plus.

Mae ymatebion yr arolwg yn cael eu casglu a'u rheoli'n ddiogel gan ddefnyddio meddalwedd arolwg Snap, gyda mynediad wedi'i gyfyngu i unigolion awdurdodedig sy'n ymwneud â'r ymchwil.

Pa mor hir y cedwir eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw'ch data yn unig cyhyd ag sy'n angenrheidiol i gwblhau'r ymchwil a bodloni ei rwymedigaethau cytundebol i Medr. Yna bydd yn dileu'r data yn ddiogel yn unol â'r gofynion cadw y cytunwyd arnynt â Medr ac yn cadarnhau ei ddileu i Medr.

Pan fo angen cadw neu rannu gwybodaeth o ganlyniad i bryder diogelu, gall trefniadau cadw gwahanol fod yn berthnasol yn unol â'r gofynion diogelu a llywodraethu gwybodaeth perthnasol.

Hawliau unigol

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau dros eich data. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall y rhain gynnwys yr hawl i:

·       ofyn am gopi o'ch data personol;

·       gofyn am gywiro data personol anghywir;

·       gofyn am gyfyngu ar y defnydd o'ch data personol;

·       wwrthwynebu defnyddio eich data personol;

·       ofyn am ddileu eich data personol.

Nid yw'r hawliau hyn yn absoliwt ac efallai na fydd yn berthnasol ym mhob amgylchiad. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan ICO.

I arfer eich hawliau, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Medr gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Cwynion am y defnydd o'ch data personol

Mae Medr wedi ymrwymo'n llwyr i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac mae'n croesawu unrhyw gwestiynau neu bryderon am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio.

Os ydych chi'n anhapus gyda'r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi'i thrin, cysylltwch â dataprotectionofficer@medr.cymru neu defnyddiwch ffurflen gwyno ar-lein Medr. Bydd Medr yn ceisio datrys eich pryderon.

Os ydych chi'n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), rheoleiddiwr diogelu data'r DU.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Tŷ Wycliffe, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk

Manylion cyswllt

Rheolydd data: Medr

Ebost: dataprotectionofficer@medr.cymru

Cyfeirnod cofrestru diogelu data: ZB552558

Contractwr ymchwil/prosesydd data: OB3 Research

Ebost: nia.bryer@ob3research.co.uk

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 23/10/2026.