Gwerthusiad Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Cyf (OB3) i gynnal gwerthusiad o raglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE). Nod y gwerthusiad hwn yw ystyried a yw PaCE yn cael ei weithredu yn ôl y disgwyl ac i greu darlun o effeithiolrwydd y rhaglen wrth helpu cyfranogwyr i gyflawni canlyniadau cynaliadwy.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau. Dilyniant yw’r cyfweliadau hyn o’r rhai a gynhaliwyd yn ystod rhannau cynharach o’r gwerthusiad a byddant yn ychwanegu at ac yn diweddaru’r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o'r cyfweliadau cynharach hynny.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau ac yn dienwi data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 yw Nia Bryer
Cyfeiriad e-bost: Nia@OB3research.co.uk
Rhif ffôn: 01558 822 922
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa fanylion personol a gedwir gennym ac o ble y daeth y manylion hynny?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â datgelu pwy ydy rhywun y gellir ei uniongyrchol neu'n anuniongyrchol eu hadnabod drwy gyfeirio at ddynodwr'.
Mae OB3 eisoes yn dal eich gwybodaeth gyswllt, a data personol arall o'ch ffurflen gofrestru PaCE, fel iddo gael ei gyflenwi gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau'r gwerthusiad ac fe'i heglurwyd yn yr hysbysiad preifatrwydd a dderbynioch pan gawsoch eich cyfweld gyntaf yn 2018 neu 2019.
Mae eich cyfranogiad parhaus yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn hysbysiadau atgoffa, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn a ddarperir, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd OB3 ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.
Nid oes angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol bellach fel rhan o'r cyfweliad.
Bydd y cyfweliadau'n cael ac mae’n bosib y bydd angen i ni recordio rhai cyfweliadau am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r cyfweliad gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Caiff y recordiadau eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn dilyn cyfweliadau.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu’r data?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, gweithredu ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio i ddadansoddi nodweddion pobl sy'n cymryd rhan yn PaCE ac i ddeall effeithiau ac effeithiolrwydd y rhaglen
Pa mor ddiogel fydd unrhyw ddata personol a gyflwynir?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar serfiwr diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad at y data. Bydd deunydd materol, fel nodiadau neu ddyfeisiau recordio, yn cael eu cadw dan glo yn swyddfeydd OB3 neu ei is-gytundebwyr. Mae gan OB3 a’i is-gytundebwyr ardystiad seiber hanfodion.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion lle mae amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri diogelwch, bydd OB3 yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol inni wneud hynny.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hwn yn cael ei adrodd yn ddienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth y gellir ei hadnabod yn cael ei dileu. Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am faint ydym yn cadw unrhyw ddata personol?
Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y cytundeb, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan OB3 dri mis ar ôl i'r cytundeb ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd OB3 yn rhoi fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi.
Eich hawliau
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych yr hawl i:
· Cael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
· Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
· Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
· Eich data gael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau); a
· Cyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r ymchwil hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:
Launa Anderson (Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth, Llywodraeth Cymru)
Rhif ffôn: 03000 259 274
Cyfeiriad e-bost: Launa.Anderson@gov.wales
Y cytundebwr ar gyfer y gwerthusiad hwn yw Nia Bryer.
Rhif ffôn: 01558 822 922
Cyfeiriad e-bost: Nia@ob3research.co.uk
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.