Gwerthusiad Terfynol o Sêr Cymru II a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop - Arolwg ar y Wê
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Hatch Regeneris i gynnal gwerthusiad o raglen Sêr Cymru II a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Bwriad y gwerthusiad hwn yw deall sut y cafodd rhaglen Sêr Cymru II ei rheoli a’i gweithredu, asesu perfformiad y rhaglen yn erbyn yr allbynnau a’r amcanion a nodwyd ac archwilio canlyniadau ac effaith ehangach. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Hatch yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar y we.
Nod yr arolwg yw casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan fuddiolwyr am effaith y rhaglen ar weithgarwch ymchwil a chasglu manylion am gyhoeddiadau a gweithgareddau cydweithredol. Mae hefyd yn ceisio casglu gwybodaeth ar ba mor dda y rhedwyd y rhaglen, i ba raddau y mae'r rhaglen wedi cyflawni ei nodau, a sut y gallai'r rhaglen esblygu.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Hatch Regeneris yn dileu unrhyw ddata personol, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Hatch Regeneris a Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Hatch Regeneris yw Oliver Chapman
Cyfeiriad e-bost: oliver.chapman@hatch.com
Rhif ffôn: 0161 234 9910
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel "unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd".
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu eich manylion cyswllt i Hatch Regeneris. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion fel rhan o ddata a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn ystod y broses ymgeisio ar gyfer Sêr Cymru II, neu drwy adroddiadau cynnydd prosiectau a gyflwynwyd gan sefydliadau buddiolwyr. Yn ystod y prosesau hyn, gwnaethoch gytuno y gallai sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy gael gafael ar eich manylion er mwyn gwneud gwaith ymchwil neu ddadansoddi neu i fonitro gyfle cyfartal yng ngwasanaethau Sêr Cymru II.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael negeseuon atgoffa, atebwch yr e-bost gyda’r gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Hatch Regeneris yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost i gysylltu â chi.
Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg. Nid yw cwblhau’r arolwg yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost na’ch cyfeiriad IP, felly mae’r arolwg yn ddienw. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r gwaith ymchwil, byddwn yn ceisio peidio eich adnabod na chysylltu eich hunaniaeth gyda’ch ymatebion. Os byddwch yn cyflwyno ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o ddata’r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Sail gyfreithlon prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, gellid defnyddio’r wybodaeth a gesglir i wneud y canlynol:
Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i raglen Sêr Cymru II.
Penderfynu pa wasanaethau Sêr Cymru ddylai barhau yn y dyfodol.
Deall y ffyrdd gorau i Lywodraeth Cymru helpu i gefnogi rhaglenni addysg uwch yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw unrhyw ddata personol a gyflwynir?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Hatch Regeneris gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder 'storfa ddata ddiogel' ar weinydd Hatch Regeneris. Dim ond y nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael gafael ar y data. Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Hatch Regeneris. Mae gan Hatch Regeneris ardystiad Cyber Essentials.
Mae Hatch Regeneris wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri'r rheolau, bydd Hatch Regeneris yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd Hatch Regeneris yn defnyddio'r data i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd Hatch Regeneris yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu yn ystod y broses ddadansoddi yn cael ei ddileu dri mis ar ôl i'r contract ddod i ben.
Bydd Hatch Regeneris yn rhoi fersiwn ddienw o'r set ddata i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd y set ddata yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod. Bydd eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill yn cael eu dileu o'r set ddata hon.
Hawliau unigolion
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn. Mae gennych yr hawl i:
Gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
Gofyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau);
Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Andrew Booth (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru)
E-bost: andrew.booth@llyw.cymru
Ffoniwch 03000 250282
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru