Gwerthusiad o raglen Academi Seren
Gwaith maes gyda rhieni, gwarcheidwaid neu gyn-fyfyrwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal gwerthusiad o raglen Academi Seren. Nod yr ymchwil hon yw archwilio profiadau dysgwyr o'r rhaglen a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud.
Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy arolwg a chyfweliadau neu grwpiau ffocws gyda rhieni a gwarcheidwaid dysgwyr presennol Academi Seren a gyda chyn-fyfyrwyr Academi Seren.
Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ac yna gofynnir iddynt fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol neu grŵp ffocws. Efallai y byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich plentyn, ond ni fyddwn yn gofyn i chi adnabod eich plentyn mewn unrhyw ffordd.
Bydd cyn-fyfyrwyr naill ai'n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg trwy e-bost ac yna gofynnir iddynt fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol; neu byddant yn cael eu gwahodd yn uniongyrchol i gymryd rhan mewn cyfweliad.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws, ac yn dienwi'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwil yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil yn OB3 yw Nia Bryer.
Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol ydym yn ei gadw a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?
Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.
Rydych wedi cael eich gwahodd gan OB3 i gymryd rhan mewn arolwg, cyfweliad neu grŵp ffocws. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn neges atgoffa ar unrhyw adeg, atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion yr ymchwil hon y bydd OB3 yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhif ffôn.
Arolwg
Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad, mae gan OB3 eich enw a'ch cyfeiriad e-bost o ffurflen gofrestru ar-lein a gwnaethoch ei llenwi. Fe wnaethoch chi dderbyn y ffurflen gofrestru ar-lein gan eich plentyn sy'n ymwneud â rhaglen Academi Seren. Mae enw a chyfeiriad e-bost eich plentyn yn cael eu dal gan Equal Education Partnership oherwydd eu bod yn ymwneud â rhaglen Academi Seren. Caiff Equal Education Partnership eu contraction gan Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen Academi Seren. Mae OB3 wedi defnyddio'r manylion cyswllt hyn i roi'r ddolen i chi gymryd rhan yn yr ymchwil.
Os ydych chi'n Gyn-fyfyriwr mae eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael ei ddal gan Equal Education Partnership oherwydd eich ymwneud â rhaglen Academi Seren ac maent wedi defnyddio'r rhain i roi'r ddolen i chi gymryd rhan yn yr ymchwil.
Nid yw cwblhau'r arolwg yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod neu gysylltu eich hunaniaeth â'r ymatebion rydych chi'n eu darparu.
Os cewch eich gwahodd i gwblhau arolwg, ar ddiwedd yr arolwg byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £50 a gofynnir i chi hefyd a ydych yn cytuno i gymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws a gynhelir ar-lein drwy MS Teams. Gallwch benderfynu gwneud un, y ddau neu dim un o'r opsiynau hyn.
Bydd angen i chi ddarparu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ym mhob achos gan ddefnyddio ffurflen gofrestru ar wahân nad yw'n gysylltiedig â chanlyniadau eich arolwg mewn unrhyw ffordd. Os byddwch yn cymryd rhan yn y raffl wobr, yna bydd OB3 Research yn dewis cyfeiriad e-bost ar hap i anfon taleb Love2shop.
Cyfweliad neu grŵp ffocws
Os ydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws, nid oes angen casglu data personol ychwanegol gennych heblaw am eich delwedd os ydych chi'n cytuno i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws gael ei recordio.
Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau neu grwpiau ffocws am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Bydd grŵp ffocws ond yn cael ei gofnodi os fydd holl aelodau'r grŵp yn hapus i hyn ddigwydd. Os bydd cyfweliadau neu grwpiau ffocws yn cael eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau neu'r grwpiau ffocws.
Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac wedi hynny yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogi yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
· ddeall yr effaith y mae rhaglen Academi Seren yn ei chael, a
· wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 ardystiad hanfodion seiber.
Wrth gynnal arolygon, mae OB3 Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Snap Surveys. Rydym wedi sicrhau bod Snap Surveys yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn cwrdd â'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata sy'n cael ei storio neu a gesglir drwy'r feddalwedd.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod toriad yn digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw'n cael ei dynnu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r ymchwil hon, yn benodol mae gennych yr hawl:
· I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
· I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
· I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
· I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
· I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: James Lundie
Cyfeiriad e-bost: james.lundie@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 251652
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.
