Gwerthusiad o raglen Academi Seren

Gwaith maes gyda staff y rhaglen

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal gwerthusiad o raglen Academi Seren. Nod yr ymchwil yma yw sefydlu sylfaen ar gyfer perfformiad y rhaglen, adolygu'r model rhesymeg ar gyfer y ddarpariaeth gyfredol, dadansoddi data rheoli ac adolygu perfformiad hanesyddol. Disgwylir hefyd y bydd y gwerthusiad yn darparu cynllun effeithiol i fesur canlyniadau arfaethedig a gynhwysir yn y model rhesymeg a theori newid.

Fel rhan o'r ymchwil hon bydd OB3 yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda staff y rhaglen, yn enwedig cydlynwyr Hwb Academi Seren a staff Equal Education Partnership. 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau a'r grwpiau ffocws, ac yn dienwi'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil yn OB3 yw Nia Bryer.

Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@ob3research.co.uk

Rhif ffôn: 07792 609821

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol ydym yn ei gadw a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?

Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.

Darparwyd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i OB3 gan Lywodraeth Cymru, sy'n cadw eich gwybodaeth oherwydd eich rôl wrth gyflwyno rhaglen Academi Seren yng Nghymru.

Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych ac eithrio eich delwedd os ydych chi'n cytuno i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws gael ei recordio'n fideo.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu dderbyn neges atgoffa, atebwch y gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd OB3 yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost.

Efallai y bydd angen i ni recordio grwpiau ffocws a chyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Bydd grŵp ffocws ond yn cael ei recordio ond fydd holl aelodau'r grŵp yn hapus i hyn ddigwydd. Os bydd grwpiau ffocws neu gyfweliadau yn cael eu recordio, bydd data personol yn cael ei dynnu yn ystod y broses drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os nad yw trafodaethau yn cael eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y grŵp ffocws neu gyfweliadau.

Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac wedi hynny yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogi yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

·         ddeall yr effaith y mae rhaglen Academi Seren yn ei chael

·         wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod toriad wedi digwydd, bydd OB3 yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw'n cael ei dynnu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r ymchwil hon, yn benodol mae gennych yr hawl:

·         I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

·         I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

·         I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

·         I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

·         I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: James Lundie

Cyfeiriad e-bost: james.lundie@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 251652

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.