Gwerthusiad o’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Holiadur Ar-lein Terfynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â Phartneriaeth BRO i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) a ariennir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig (2014-2020).

Nod y gwerthusiad yw asesu’r SMS yn erbyn ei nod o gefnogi gweithredu cydweithredol er mwyn gwella adnoddau naturiol. Ar gyfer y camau olaf o’r gwerthusiad, bydd Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO yn casglu gwybodaeth drwy holiadur ar-lein o brosiectau.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r prosiect er defnydd ymchwil ac ystadegol yn unig, i gynhyrchu adroddiad ymchwil i’w gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o boisbl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Ymchwil OB3 yw Heledd Bebb

Cyfeiriad e-bost: heledd@ob3research.co.uk

Rhif ffôn: 07815 772242

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol ydym ni yn ei ddal a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.

Anfonwyd gwahoddiad i'r arolwg atoch am un o ddau reswm:

1) Rydych chi'n Arweinydd Prosiect ac wedi cael y gwahoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru sydd â'ch manylion cyswllt oherwydd eich cyfranogiad yn y Cynllun Rheoli Cynaliadwy;

2) Rydych chi'n bartner prosiect ac wedi cael y gwahoddiad hwn trwy Arweinydd Prosiect SMS sy'n cadw eich manylion. Mae hyn oherwydd bod gennym ddiddordeb mewn cael safbwyntiau a phersbectifau gwahanol felly rydym am fynd y tu hwnt i Arweinwyr Prosiect wrth ystyried canlyniadau prosiectau.

Nid yw'r arolwg yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata personol ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu dal pan fyddwch yn cwblhau'r arolwg gan fod y canlyniadau'n ddienw. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu dychwelyd i OB3 Research a Phartneriaeth BRO ac nid ydynt ar gael i unrhyw un arall a allai fod wedi anfon dolen arolwg atoch.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil ni fyddwn yn ceisio eich adnabod o’r ymatebion a roddwch, nac yn cysylltu eich cysylltu yn unigol â nhw. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglir gan yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei ddefnyddio i:

  • mewn adroddiadau diweddaru blynyddol i gefnogi penderfyniadau polisi yn barhaus

  • i hysbysu arferion ar gyfer y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO bob amser yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO yn defnyddio’r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan Ymchwil OB3 a BRO Partnership weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a byddant yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Wrth gynnal arolygon, mae Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Snap Surveys. Rydym wedi sicrhau bod meddalwedd SNAP yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd a bod yr holl ddata’n cael ei brosesu yn y DU.

Bydd Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?

Bydd Ymchwil OB3 a BRO Partnership yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO dri mis ar ôl diwedd cyfnod y contract.

Bydd Ymchwil OB3 a Phartneriaeth BRO yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd modd cysylltu eich ymateb i’r holiadur i fanylion cyswllt sydd gan Lywodraeth Cymru eisoes.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r gwerthusiad hwn:

  • Cyrchu copi o'ch data eich hun;

  • I ni unioni gwallau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Jessica Steventon

Cyfeiriad e-bost: Jessica.Steventon@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 250480

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.