Gwerthusiad o'r Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid

 Gwerthusiad Proses: Arolwg Ar-lein

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen Grantiau Cyfalaf Trawsnewid. Nod y gwerthusiad yw asesu'r prosesau rheoli, monitro a gwerthuso a llywodraethu'r rhaglen ac asesu a ydynt yn cefnogi cyflawni ac yn sicrhau gwerth am arian.

Fel rhan o'r gwerthusiad mae OB3 yn dymuno casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein gyda'r holl sefydliadau a all wneud cais am y rhaglen grant gan gynnwys ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus a'r rhai sy'n gymwys ond nad ydynt wedi gwneud cais eto.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o’r data a gasglwyd gan OB3. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy arolygon ac yn gwneud y data crai yn ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y gwerthusiad yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn y gwerthusiad yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mewn llywio polisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Y cyswllt ar gyfer y gwerthusiad hwn yn Ymchwil OB3 yw: Heledd Bebb

Cyfeiriad e-bost: heledd@ob3research.co.uk.

Rhif ffôn: 07815 772242

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddynodydd’.

Gofynnodd OB3 i Lywodraeth Cymru neu sefydliad ymbarél yn y sector amgueddfeydd, archifau neu lyfrgelloedd rannu dolen yr arolwg ar-lein â sefydliadau cymwys.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac nid yw eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad IP yn cael eu cofnodi'n awtomatig trwy gymryd rhan yn yr arolwg. Bydd yr arolwg ar-lein yn gofyn a fyddech yn barod i gyfrannu at y gwerthusiad. Bydd gwneud hynny yn wirfoddol a gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt yn yr arolwg os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn camau diweddarach - gallwch barhau i gymryd rhan yn yr arolwg heb ddarparu manylion cyswllt.

Os rhowch eich manylion cyswllt yna efallai y bydd OB3 yn cysylltu â chi i gynnal cyfweliad. Mae eich cyfranogiad mewn unrhyw ran o'r ymchwil yn y dyfodol yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a gewch gan OB3. Nid yw'r cyfweliad yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo. Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon iddo gael ei recordio. Os cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb defnyddir dictaffon i recordio. Os cânt eu cynnal yn rhithwir, bydd Microsoft Teams yn cael eu defnyddio a bydd cyfweliadau'n cael eu recordio trwy'r platfform hwn. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl cyfweliadau.

Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn ac y byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei dileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ond mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni i wella ei gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio:

·       mewn adroddiadau diweddaru blynyddol i fireinio gweithrediad y cynllun yn barhaus

·       llywio arfer yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw'r data personol a roddir?

Caiff gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 bob amser ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael mynediad at y data. Bydd ymchwilwyr cymdeithasol OB3 Research ond yn defnyddio’r manylion cyswllt sydd ganddynt ar gyfer y gwerthusiad ar gyfer dibenion y gwerthusiad hwn. Mae gan OB3 Research dystysgrif Cyber Essentials.

Wrth gynnal arolygon, mae OB3 Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw meddalwedd SNAP. Rydym wedi sicrhau bod SNAP: yn cydymffurfio â GDPR ac yn cwrdd â'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy'r feddalwedd. All data is processed within the EEA and is deleted from the SNAP software server as soon as it is downloaded to OB3 Research’s server for analysis.

Mae Ymchwil OB3 wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth bod achos o dorri drwy ddiogelwch data wedi digwydd. Os amheuir bod achos o’r fath wedi digwydd, bydd OB3 Research yn hysbysu Llywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo hynny'n ofynnol o dan y gyfraith. Mae’r holl ddata’n cael ei brosesu o fewn yr AEE ac yn cael ei ddileu o weinydd meddalwedd SNAP cyn gynted ag y caiff ei lawrlwytho i weinydd OB3 i’w ddadansoddi.

Bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw gyfranogwr.

Am ba hyd y bydd y data personol a roddir yn cael eu cadw?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a chaiff unrhyw ddata personol, nad ydynt eisoes wedi cael eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio, eu dileu o fewn tri mis i ddiwedd y contract.

Bydd Ymchwil OB3 yn darparu fersiwn o’r data gyda’r enwau wedi’u dileu i Lywodraeth Cymru ac ni fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai olygu bod modd eich adnabod.

Eich hawliau

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at eich data eich hun;

  • gofyn inni gywiro unrhyw fanylion anghywir yn y data hynny;

  • o dan amgylchiadau penodol, wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu;

  • mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol); a

  • chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Enw: Tom Stevenson

Cyfeiriad e-bost: tom.stevenson2@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 062 2570

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yma:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Ebost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.