Gwerthusiad o'r Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid

Gwerthusiad Proses: Cyfweliadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen Grantiau Cyfalaf Trawsnewid. Nod y gwerthusiad yw asesu'r prosesau rheoli, monitro a gwerthuso a llywodraethu'r rhaglen ac asesu a ydynt yn cefnogi cyflawni ac yn sicrhau gwerth am arian.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd OB3 Research yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau lled-strwythuredig ag unigolion sy'n ymwneud â chyflwyno'r rhaglen yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau sydd wedi ymgysylltu â'r rhaglen.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o’r data a gasglwyd gan OB3. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy gyfweliadau ac yn gwneud y data crai yn ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o’r data a gasglwyd gan OB3. Fodd bynnag, bydd Ymchwil OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy gyfweliadau ac yn gwneud y data crai yn ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y gwerthusiad yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Ymchwil OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn y gwerthusiad yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mewn llywio polisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Y cyswllt ar gyfer y gwerthusiad hwn yn Ymchwil OB3 yw: Heledd Bebb

Cyfeiriad e-bost: heledd@ob3research.co.uk.

Rhif ffôn: 07815 772242

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddynodydd’.

Bydd OB3 wedi derbyn eich manylion cyswllt (ar ffurf enw, cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn) gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion oherwydd eich bod naill ai wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r rhaglen neu eich bod yn dod o sefydliad sydd wedi ymgysylltu â’r rhaglen hon.

Bydd Ymchwil OB3 ond yn defnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo. Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os mai dyma'r achos, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon iddo gael ei recordio. Os cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb defnyddir dictaffon i recordio. Os cânt eu cynnal yn rhithwir, bydd Microsoft Teams yn cael eu defnyddio a bydd cyfweliadau'n cael eu recordio trwy'r platfform hwn. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl cyfweliadau.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn ac y byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei dileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ond mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni i wella ei gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio:

·       i fireinio gweithrediad y cynllun yn barhaus

·       i lywio arfer yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Ymchwil OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Mae'r holl gyfweliadau a recordiwyd ar Dictaphones yn cael eu storio bob amser mewn swyddfeydd OB3 mewn cypyrddau diogel, dan glo. Dim ond aelodau o'r tîm ymchwil sydd â mynediad at gofnodion a wneir trwy Teams, ac mae mynediad at y data hwn yn amodol ar yr un arferion diogelwch â'r holl ddata arall a gedwir gan Ymchwil OB3. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Ymchwil OB3 ardystiad Cyber ​​Essentials.

Mae gan Ymchwil OB3 weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd Ymchwil OB3 yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd Ymchwil OB3 yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd y bydd y data personol a roddir yn cael eu cadw?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a chaiff unrhyw ddata personol, nad ydynt eisoes wedi cael eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio, eu dileu o fewn tri mis i ddiwedd y contract.

Bydd Ymchwil OB3 yn darparu fersiwn o’r data gyda’r enwau wedi’u dileu i Lywodraeth Cymru ac ni fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai olygu bod modd eich adnabod.

Eich hawliau

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at eich data eich hun;

  • gofyn inni gywiro unrhyw fanylion anghywir yn y data hynny;

  • o dan amgylchiadau penodol, wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu;

  • mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol); a

  • chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Enw: Tom Stevenson

Cyfeiriad e-bost: tom.stevenson2@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 062 2570

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yma:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Ebost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.