Gwerthusiad o Dwristiaeth Wledig Cymru Gyfan: Ymchwil ar brosiectau a ariennir
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research i gynnal gwerthusiad o bedwar cynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan a ddarparwyd o dan Raglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014 - 2020. Y rhain yw:
y Gronfa Micro a Busnesau Bach (MSBF)
y Cynllun Buddsoddi Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
y Gronfa Ymgysylltu â Thwristiaeth Ranbarthol (RTEF) a
y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF).
Nod y gwerthusiad hwn yw archwilio sut mae’r cynlluniau wedi’u cyflawni a pha effaith y maent wedi’u cael. Defnyddir y canfyddiadau i lywio cymorth twristiaeth yn y dyfodol yng Nghymru.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd OB3 Research yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein o brosiectau a ariennir, yn ogystal â chyfweliadau ac ymweliadau safle gyda sampl o brosiectau. Yn ystod ymweliad safle, efallai y bydd yr ymchwilydd yn ceisio casglu adborth gan ymwelwyr/defnyddwyr a bydd y rhain yn derbyn hysbysiad preifatrwydd ar wahân os gofynnir iddynt am unrhyw ddata personol. Bydd yr ymchwilydd yn trafod hyn gyda chi ymlaen llaw ac ni fyddant yn ceisio cael adborth gan ymwelwyr/defnyddwyr oni bai eich bod yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 Research yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig, i gynhyrchu adroddiad ymchwil a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 Research a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn OB3 Research yw Nia Bryer.
Cyfeiriad e-bost: nia@ob3research.co.uk
Rhif ffôn: 07792 609821
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.
Mae OB3 Research wedi derbyn eich manylion gan Lywodraeth Cymru – enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion oherwydd eich bod wedi cymryd rhan yn un o gynlluniau grant Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan. Gwnaethoch roi eich manylion i Lywodraeth Cymru pan wnaethoch gais am gyllid drwy un neu fwy o’r cynlluniau hyn. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd OB3 Research yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol yn ystod bob cam o'r ymchwil ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn nodyn atgoffa yna atebwch unrhyw un o'r negeseuon e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Bydd OB3 Research yn e-bostio dolen atoch i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg o'r holl brosiectau a ariennir. Nid yw'r arolwg yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol yn ystod yr arolwg, bydd OB3 Research yn tynnu hwn o’r data yn fuan ar ôl i’r arolwg gau a chyn i’r data gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Gall OB3 Research eich e-bostio neu eich ffonio i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad. Pan ofynnir i chi gymryd rhan mewn cyfweliad, nid oes angen i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i gyfweliad gael ei recordio ar fideo.
Fel arfer cynhelir cyfweliadau trwy Microsoft Teams. Dymunwn recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, efallai y bydd OB3 Research hefyd yn gofyn am gael ymweld â safle'r prosiect y cawsoch yr arian ar ei gyfer. Os bydd OB3 Research yn gofyn am ymweliad safle, a’ch bod yn derbyn, bydd ymchwilydd o OB3 Research yn ymweld â safle’r prosiect, ar amser a dyddiad a gytunwyd gennych chi a’r ymchwilydd ymlaen llaw. Byddwch yn cael cynnig dewis rhwng cyfweliad trwy Microsoft Teams, neu gyfweliad wyneb yn wyneb a gynhelir yn ystod yr ymweliad safle. Nid yw ymweliad safle yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:
Asesu os yw'r rhaglen wedi cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Helpu llywio datblygiad mecanweithiau ariannu ar ôl 2023.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd OB3 Research yn defnyddio'r data hwn. Mae gan OB3 Research ardystiad Cyber Essentials.
Wrth gynnal arolygon, mae OB3 Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw meddalwedd SNAP. Rydym wedi sicrhau bod meddalwedd SNAP yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd a bod yr holl ddata’n cael ei brosesu yn y DU.
Mae gan OB3 Research weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd OB3 Research yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 Research yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd OB3 Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i dynnu o ymatebion arolwg penagored neu yn ystod trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan OB3 Research dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd OB3 Research yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:
Cyrchu copi o'ch data eich hun
I ni unioni gwallau yn y data hwnnw
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
Er mwyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau), a
Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:
Enw: Siân Hughes
Cyfeiriad e-bost: sian.hughes023@gov.wales
Rhif ffôn: 0300 025 0656
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.