Ymchwil i gefnogi adolygiad o’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach): Gwaith maes gyda Staff Canolfannau Dysgu
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal ymchwil i gefnogi adolygiad o’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (y Grant Dysgu) yng Nghymru. Nod yr ymchwil hon yw adolygu cymhwysedd, deall proffil y derbynwyr, asesu effaith ar gyfranogiad, ymgysylltiad a gwytnwch ariannol dysgwyr, ac archwilio effeithiolrwydd y model presennol yn erbyn dewisiadau amgen posibl.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd OB3 yn casglu gwybodaeth drwy arolwg a chyfweliadau neu grwpiau ffocws gyda staff y Ganolfan Ddysgu sy'n ymwneud â gweithredu y Grant Dysgu. Gwahoddir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn arolwg trwy e-bost ac yna gofynnir iddynt fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws dilynol.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg, cyfweliadau neu grwpiau ffocws, ac yn dienwio'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 Research a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn OB3 yw Nia Bryer
Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@OB3research.co.uk
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?
Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.
Darparwyd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i OB3 gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru eich gwybodaeth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr sy'n sefydliad dielw sy'n eiddo i'r llywodraeth sy'n gweinyddu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion yn y DU. At ddibenion yr adolygiad hwn y bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth hon yn unig. Os ydych wedi derbyn yr arolwg hwn drwy rywun arall, efallai bod hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ei anfon yn wreiddiol at gyswllt a oedd yn teimlo bod person arall mewn sefyllfa well i ymateb ac felly ei anfon ymlaen.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn neges atgoffa ar unrhyw gam, yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych. Bydd eich ymatebion i'r arolwg yn ddienw. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, neu gysylltu eich hunaniaeth â'r ymatebion rydych chi'n eu darparu.
Ar ddiwedd yr arolwg gofynnir i chi a ydych yn cytuno i gymryd rhan mewn cyfweliad neu drafodaeth grŵp ffocws a gynhelir ar-lein trwy MS Teams. Os ydych chi'n cytuno, bydd angen i chi ddarparu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost gan ddefnyddio ffurflen gofrestru ar wahân na fydd yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arolwg mewn unrhyw ffordd.
Nid yw cymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws gael ei recordio mewn fideo.
Efallai y bydd angen i ni recordio grwpiau ffocws a chyfweliadau fideo neu sain am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Bydd grŵp ffocws yn cael ei recordio dim ond os yw holl aelodau'r grŵp yn hapus i hyn ddigwydd. Os recordir grwpiau ffocws neu gyfweliadau, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chofnodir trafodaethau, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y grŵp ffocws neu gyfweliadau.
Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
· ddeall yn well yr effaith y mae'r grant yn ei chael ar Ganolfannau Dysgu a dysgwyr
· darparu argymhellion ar gyfer y ffordd y gweinyddir y Grant Dsygu.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gall y data gael ei gyrchu. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 Research ardystiad cyber essentials.
Wrth gynnal arolygon, mae OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Snap Surveys. Rydym wedi sicrhau bod Snap Surveys yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata sydd wedi'i storio neu a gesglir drwy'r feddalwedd.
Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os byddwn yn amau bod diogelwch data wedi ei dorri, bydd OB3 yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw'n cael ei dynnu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 Research o fewn tri mis o ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd OB3 yn darparu fersiwn ddienw o ddata'r arolwg i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r adolygiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:
· I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
· I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
· I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
· I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
· Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: James Lundie
Cyfeiriad e-bost: james.lundie@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 251652
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales