Ymchwil i gefnogi adolygiad o’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach): Arolwg ymgeiswyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 (OB3) i gynnal ymchwil i gefnogi adolygiad o’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (y Grant Dysgu) yng Nghymru. Nod yr ymchwil hon yw adolygu cymhwysedd, deall proffil y derbynwyr, asesu effaith ar gyfranogiad, ymgysylltiad a gwytnwch ariannol dysgwyr, ac archwilio effeithiolrwydd y model presennol yn erbyn dewisiadau amgen posibl.

Fel rhan o'r adolygiad hwn bydd OB3 yn casglu gwybodaeth drwy arolwg o ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y Grant Dysgu boed eu cais yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus. Gwahoddir cyfranogwyr i gymryd rhan yn yr arolwg trwy e-bost.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd OB3 yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir, ac yn dienwio'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan OB3 a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn OB3 yw Nia Bryer.

Cyfeiriad e-bost: Nia.Bryer@OB3research.co.uk

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?

Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.

Darparwyd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i OB3 gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru eich gwybodaeth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr sy'n sefydliad dielw sy'n eiddo i'r llywodraeth sy'n gweinyddu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion yn y DU. At ddibenion yr adolygiad hwn y bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth hon yn unig.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn neges atgoffa ar unrhyw gam, yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych. Bydd eich ymatebion i'r arolwg yn ddienw. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, neu gysylltu eich hunaniaeth â'r ymatebion rydych chi'n eu darparu. 

Ar ddiwedd yr arolwg byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £50. Er mwyn cymryd rhan yn y raffl, bydd angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost gan ddefnyddio ffurflen gofrestru ar wahân nad yw'n gysylltiedig â chanlyniadau eich arolwg mewn unrhyw ffordd.

Os byddwch chi'n cymryd rhan yn y raffl, yna bydd OB3 yn dewis cyfeiriad e-bost ar hap i anfon taleb Love2shop.

Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

·         ddeall yn well yr effaith y mae'r grant yn ei chael ar ddysgwyr

·         darparu argymhellion ar gyfer y ffordd y gweinyddir y Grant Dysgu.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i OB3 bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gall y data gael ei gyrchu. Bydd OB3 yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan OB3 ardystiad cyber essentials. 

Wrth gynnal arolygon, mae OB3 yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Snap Surveys. Rydym wedi sicrhau bod Snap Surveys yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata sydd wedi'i storio neu a gesglir drwy'r feddalwedd.

Mae gan OB3 weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os byddwn yn amau bod diogelwch data wedi ei dorri, bydd OB3 yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd OB3 yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd OB3 yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw'n cael ei dynnu eisoes yn cael ei ddileu gan OB3 o fewn tri mis o ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd OB3 yn darparu fersiwn ddienw o ddata'r arolwg i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r adolygiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:

·         I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

·         I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

·         I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

·         I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

·         Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: James Lundie

Cyfeiriad e-bost: james.lundie@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 251652

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru.