Ymgynghoriad i ddysgwyr i lywio datganiad polisi buddsoddi Medr – Hysbysiad Preifatrwydd 

Cefndir 

Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, wedi gofyn i OB3 Research ymgynghori â dysgwyr ledled Cymru i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu ei ddatganiad polisi buddsoddi. Bydd hyn yn golygu casglu barn dysgwyr mewn lleoliadau addysg bellach, addysg uwch, darpariaeth prentisiaethau, addysg oedolion yn y gymuned a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio os byddwch yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Efallai y bydd unrhyw ganfyddiadau o'r ymchwil yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau neu allbynnau eraill ar gyfer Medr, ond ni fydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi. Ni fydd sylwadau yn cael eu priodoli i unigolion a enwir heb eich cytundeb penodol. 

Mae cymryd rhan yn ddewisol, ond mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig iawn a bydd yn helpu i sicrhau bod gwaith Medr yn y dyfodol yn cael ei lywio gan safbwyntiau dysgwr.  

Pa ddata sy'n cael ei gasglu a sut mae'n cael ei ddefnyddio? 

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod person, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. 

Ar ran Medr, mae OB3 Research yn cynnal grwpiau ffocws i gasglu barn dysgwyr yng Nghymru am eu profiadau o addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gynnwys yr hyn sy'n bwysig i ddysgwyr a'u barn am ba ddarpariaeth y dylai Medr ei blaenoriaethu yn y dyfodol. 

Yn ystod yr ymchwil, efallai y gofynnir i ddysgwyr rannu eu barn a’u profiadau. Bydd unrhyw fanylion personol yn cael eu cadw i'r lleiafswm a'u trin yn ddiogel, gan ddilyn rheolau diogelu data. Mae OB3 Research wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac mae'n dilyn canllawiau llym i gadw gwybodaeth yn ddiogel. 

Yn ystod yr ymchwil hon, gall OB3 Research gasglu a dadansoddi'r categorïau canlynol o ddata personol: 

  • Manylion cyswllt (enw, e-bost, rhif ffôn) 

  • Manylion demograffig (rhyw, oedran) 

  • Manylion addysg a hyfforddiant (cwrs, lefel cymhwyster, darparwr addysg neu hyfforddiant)  

  • Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r rhaglen (eich adborth, barn a phrofiadau fel dysgwr)  

  • Cymorth ariannol a dderbyniwyd tra mewn addysg neu hyfforddiant (fel y Lwfans Cynhaliaeth Addysg [LCA] neu brydau ysgol am ddim) 

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig ac yn cael ei thrin yn ofalus ac yn barchus. 

Ni ofynnir i gyfwelwyr ddarparu data personol categori arbennig fel tarddiad hiliol neu ethnig, gwybodaeth iechyd, credoau crefyddol, barn wleidyddol neu aelodaeth undeb llafur fel gwybodaeth bersonol amdanynt eu hunain. Os bydd unrhyw wybodaeth o'r fath yn cael ei wirfoddoli yn ystod y cyfweliad, bydd OB3 Research yn ei defnyddio dim ond lle mae'n berthnasol i'r ymchwil, bydd yn ei lleihau lle bo hynny'n bosibl, a bydd yn ei diogelu'n ofalus yn unol â gofynion GDPR y DU. 

Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd y data a ddarparwch yn cael ei ddefnyddio: i reoli cyfranogiad, dadansoddi canfyddiadau, a chynhyrchu adroddiad i'w gyhoeddi gan Medr. Ni fydd eich data byth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata neu benderfyniadau awtomataidd. Bydd adroddiadau'n cael eu dienw a'u gwirio i gael gwared ar unrhyw risg o adnabod unigolion. Mae unrhyw ddata cofrestru a ddarperir gan ddysgwyr yn cael ei gasglu trwy feddalwedd arolwg SNAP, platfform diogel sy'n bodloni safonau diogelwch rhyngwladol (SOC 2 Math II ac ISO 27001). 

Ni fydd OB3 Research yn rhannu eich data personol gyda Medr.  

Beth yw'r sail gyfreithlon dros gasglu'r data hwn? 

Y brif sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth a ddarperir yn ystod yr ymchwil yw 'tasg gyhoeddus' Medr, fel y nodir o dan Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, lle mae prosesu data personol yn 'angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.' Ategir y sail gyfreithlon hon ymhellach gan swyddogaethau statudol Medr o dan Ddeddf Addysg ac Ymchwil Trydyddol (Cymru) 2022 mewn perthynas â chynllunio, ariannu, gwella a chydlynu addysg drydyddol yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn nodi bod yn ofynnol i Medr ymgynghori ar ddatblygu ei ddatganiad polisi buddsoddi a bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu i lywio datblygiad datganiad polisi buddsoddi Medr.  

Yn ogystal, mae'r ymchwil hefyd yn dibynnu ar sail gyfreithlon 'caniatâd', fel y nodir o dan Erthyglau 6(1)(a) o GDPR y DU, yn unol â hynny, mae cyfranogiad yn yr ymchwil yn gwbl wirfoddol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gymryd rhan, a gallwch ddewis tynnu'n ôl o'r ymchwil ar unrhyw adeg. Os nad ydych am gymryd rhan yn yr ymchwil neu dderbyn neges atgoffa, yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad yn mynegi eich dymuniad, a bydd OB3 Research yn tynnu eich manylion o'r cofnodion ymchwil.  

Pa mor ddiogel yw eich data personol? 

Mae OB3 Research yn storio'ch data ar weinyddion cwmwl wedi'u lleoli yn y DU ac yn defnyddio amgryptio a mynediad cyfyngedig. Mae gan OB3 Research ardystiad Cyber Essentials Plus. 

Pa mor hir y cedwir eich data personol? 

Bydd OB3 Research yn cadw'ch data yn ystod cyfnod y contract. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei ddileu'n ddiogel, a bydd Medr yn derbyn cadarnhad o hyn. 

Hawliau unigol 

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau dros eich data. Gallwch ofyn am: 

  • gopi o'ch data; 

  • gywiro camgymeriadau; 

  • ddefnydd eich data i stopio neu fod yn gyfyngedig (mewn rhai achosion); 

  • ddileu data (mewn rhai achosion); 

Mae rhai cyfyngiadau mewn rhai achosion yn ddibynnol ar eich cais ac ar ddiben y prosesu. Mae Medr yn croesawu unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'ch hawliau. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan ICO

I arfer eich hawliau, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Medr gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.  

Cwynion am y defnydd o'ch data personol 

Mae Medr wedi ymrwymo'n llwyr i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth diogelu data ond yn croesawi unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â phrosesu eich data a bydd yn gwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych.  

Os ydych chi'n anghytuno â'r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi'i thrin, cysylltwch â dataprotectionofficer@medr.cymru neu llenwch y ffurflen gwyno ar-lein a bydd Medr yn ceisio datrys eich problem yn anffurfiol. 

Os nad yw Medr yn gallu datrys y mater i'ch boddhad, gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr diogelu data'r DU. 

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AFPhon: 0303 123 1113Gwefan: www.ico.gov.uk 

Yr e-bost cyswllt ar gyfer Medr fel Rheolwr Data yw dataprotectionofficer@Medr.cymru 

Yr e-bost cyswllt ar gyfer OB3 Research fel Prosesydd Data yw nia.bryer@ob3research.co.uk  

Cyfeirnod cofrestru diogelu data Medr yw ZB552558. 

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 03/09/26.