Gwerthuso Cymunedau dros Waith gan OB3 a Phartneriaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi apwyntio cwmni Ymchwil OB3 mewn partneriaeth â Dateb, Uned Pobl a Gwaith a Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth (IES) i ymgymryd â'r gwerthusiad o'r rhaglen Cymunedau dros Waith sy'n ymyrraeth marchnad lafur newydd a gynlluniwyd i gefnogi pobl di-waith ac economaidd anweithgar hirdymor i sicrhau cyflogaeth. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae gan y gwerthusiad dri phrif nod. Yn gyntaf, i ddatblygu'r model rhesymeg sy'n sail i'r rhaglen; yn ail, asesu sut mae'r rhaglen wedi ei sefydlu a sut mae'n cael ei weithredu; ac yn drydydd, rhoi syniad o'i effeithiolrwydd cyffredinol.