Bydd tîm o gynghorwyr gwerthuso o OB3 wrth law i roi cymorth gwerthuso pwrpasol i ymgeiswyr a deiliaid grantiau rhaglen Creu eich Lle y Gronfa Loteri Fawr dros y saith mlynedd nesaf.
Bydd OB3 yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ymgeiswyr llwyddiannus a deiliaid grantiau ar:
- Gynllunio gweithgarwch monitro a gwerthuso
- Datblygu a defnyddio tystiolaeth llinell gwaelodlin
- Defnyddio dulliau, offer a thechnegau priodol i gasglu tystiolaeth werthuso
- Defnyddio dangosyddion priodol i fesur perfformiad ac effaith
Bydd cyngor ac arweiniad yn cael ei ddarparu gan OB3 drwy gyfrwng cymorth pwrpasol un-i-un, deunyddiau cyfarwyddyd gwerthuso a digwyddiadau rhwydwaith.
Bydd tîm OB3 hefyd yn gyfrifol am ymgymryd â'r gwerthusiad effaith ar gyfer y rhaglen Creu eich Gofod. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.createyourspace.wales