Gwerthusiad o gynllun datblygu staff Heddlu Dyfed-Powys ar y gweill

Mae OB3 wrthi'n gwerthuso'r cynllun datblygu gyrfa Heddlu Dyfed Powys-'Llywio' - sydd wedi'i hanelu at nodi a meithrin gyrfaoedd swyddogion heddlu a staff sy'n dangos potensial uchel drwy gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol. Mae'r cynllun yn cynnwys hyfforddi a mentora,  cynlluniau datblygiad personol pwrpasol ac amryw gyfleoedd hyfforddiant. Mae Nia Bryer o Ymchwil OB3 yn arwain ar y gwaith ymchwil sy'n cynnwys ymchwil pen desg. cyfres o gyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws anffurfiol.