Gwerthusiad o gymorth mewn gwaith y cynllun 'Cymru Iach ar Waith'

Mae Ymchwil OB3 yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth (Institute of Employment Studies) i gynnal gwerthusiad o gymorth mewn gwaith y cynllun Cymru Iach ar Waith, sy'n gynllun a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu theori newid drwy gyfweliadau gyda llunwyrr polisi blaenllaw ac adolygiad manwl o lenyddiaeth. I adeiladu consensws ar y model drafft o sut y dylai'r rhaglen weithredu, bydd IES a OB3 yn arwain gweithdy gyda gwneuthurwyr polisi.

Yna caiff y rhagdybiaethau eu profi fel rhan o weithgareddau gwerthuso. Bydd hyn yn cynnwys archwilio safbwyntiau cyflogwyr, unigolion, meddygon teulu ac eraill, yn ogystal â dadansoddi gwybodaeth rheoli ar nifer y bobl sy'n derbyn cymorth drwy'r rhaglen ac a'u canlyniadau.