Cyhoeddi adroddiad OB3 - Gwerthusiad Terfynol 2007-13 Cronfeydd Strwythurol Ewrop

Nod y Gwerthusiad Terfyn Rhaglen oedd gwerthuso beth gyflawnodd rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 a nodi pa wersi y gellir eu dysgu er mwyn gweithredu rhaglenni 2014-2020 ac ar gyfer cynllunio unrhyw ragleni i’r dyfodol. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys adolygu’r holl raglenni a’r gwerthusiadau lefel prosiect a gynhaliwyd ar y rhaglenni; felly mae’n cynrychioli synthesis o’r hyn a ddysgwyd yn gynharach, llawer ohono eisoes wedi’i adlewyrchu yn y dasg o gynllunio a chyflenwi rhaglenni 2014-2020, mewn prosiectau a gynorthwyir ac wrth ddatblygu cynigion prosiect. Mae copi o'r adroddiad ar gael yma.