Penodwyd OB3 Research gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil ar ymsefydlu statudol athrawon yng Nghymru.
Nod yr ymchwil yw ‘cynhyrchu tystiolaeth a fydd yn helpu i lywio datblygiad polisi a gweithredu trefniadau sefydlu yn y dyfodol’.
Mae tri amcan penodol ar gyfer yr ymchwil fel a ganlyn:
• deall barn a phrofiadau Athrawon Newydd Gymhwyso sy'n ymgymryd â sefydlu
• deall y ffactorau a / neu'r amodau a all gefnogi neu rwystro gweithredu gofynion sefydlu statudol yn effeithiol
• nodi ffyrdd y gellid cryfhau ymsefydlu.
Disgwylir y cynhelir yr ymchwil rhwng Hydref 2019 a Chwefror 2020.