Apwyntiwyd cwmni Ymchwil OB3 i baratoi papur ymchwil ar ran cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes a fydd yn tynnu ar ddadansoddiad o dystiolaeth annibynnol a hunan-werthuso prosiectau maes amaeth yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn ystyried cyd-destun ffermio yng Nghymru a'i ddyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac yn edrych ar arfer da a gwersi i'w dysgu ar lefel rhyngwladol. Pwrpas yr ymchwil bydd asesu cyfraniad Menter a Busnes hyd yma ac archwilio unrhyw dechnegau a dulliau y gellid eu defnyddio i ymateb i heriau heddiw a'r dyfodol.