Mae Ymchwil OB3 ar y cyd ag EffectusHR wedi ein comisiynu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i lunio Cynllun Datblygu'r Gweithlu ar gyfer y sector Dysgu Cymraeg.
Bydd yr astudiaeth yn casglu gwybodaeth am y gweithlu presennol ac yn edrych i gynhyrchu cynllun datblygu gweithlu a fydd yn cynorthwyo'r sector i ymateb i anghenion y dyfodol.
Mae'r gwaith ymchwil yn cynnwys casglu a dadansoddi data a gwybodaeth am weithlu'r sector, cyfweliadau gyda darparwyr ac arolwg cynhwysfawr gyda holl staff y sector ynghyd â gweithdy i gyflwyno'r canfyddiadau.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â'r gwaith dros y misoedd nesaf ac at gydweithio gyda darparwyr Dysgu Cymraeg ar hyd a lled Cymru.