OB3 a WISERD i werthuso Rhwydwaith Seren

Mae Llywodraeth Cymru wedi apwyntio Ymchwil OB3 mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol, Economaidd, Data a Dulliau Cymru i ymgymryd â gwerthusiad proses, ffurfiannol o Rwydwaith Seren.

Mae Rhwydwaith Seren yn rwydwaith o ganolfannau partneriaeth rhanbarthol sy'n cefnogi disgyblion Lefel A disgleiriad Cymru i ymgeisio am a chyrraedd Prifysgolion gorau Prydain (Grwp Russell a 30 Ymddiriedolaeth Sutton). Mae'r un ar ddeg canolfan yn cwmpasu holl ysgolion a cholegau â chanddynt chweched dosbarth, ac yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau Seren yn ystod y flwyddyn academaidd.

Nod y gwaith ymchwil yw cynnal gwerthusiad ffurfiannol o Rhwydwaith Seren i lywio penderfyniadau ynghylch y meini prawf ar gyfer pobl ifanc sy'n medru cymryd rhan a dyluniad a darpariaeth y rhaglen ar lefel genedlaethol a lleol.

Mae methodoleg y gwerthusiad yn cynnwys dadansoddi dogfennau a data, cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol, grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ac arolygon gyda rhieni a chydgysylltwyr chweched.