OB3 i gynnal adolygiad o raglenni pontio'r cenedlaethau a'u heffeithiolrwydd i leihau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 i gynnal adolygiad archwiliadol o raglenni pontio’r cenedlaethau, gan ganolbwyntio ar eu heffeithiolrwydd i leihau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar Gymru a mannau eraill yn y DU. Bydd yn ymchwilio i raglenni sy'n bodoli eisoes gan ystyried beth yw’r galluogwyr a'r rhwystrau sy'n wynebu rhaglenni pontio’r cenedlaethau i leihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd yn llwyddiannus.

Cefnogir OB3 yn yr adolygiad gan arbenigwyr academaidd o'r Ganolfan Astudiaethau Unigrwydd ym Mhrifysgol Sheffield a fydd yn cynnal adolygiad llenyddiaeth fanwl i'r maes.