Apwyntiwyd OB3 gan Lywodraeth Cymru i baratoi adroddiad gwerthuso terfynol o'r prosiect Ymgysylltu â Chwsmeriaid (CE) a'r prosiect Cefnogi Cychwyn Busnes Newydd (NBSS). Mae'r adroddiad bellach wedi ei gyhoeddi a gellir ei ddarllen yma.
Mae'r prosiect Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn darparu gwasanaeth cymorth busnes ar gyfer holl fusnesau Cymru tra bod y prosiect Cefnogi Cychwyn Busnes Newydd yn darparu cymorth i unigolion sy'n ystyried sefydlu busnes neu sydd wedi gwneud hynny yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn cael ei ariannu yn rhannol gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae'r gwerthusiad yn edrych ar effaith net y proisectau CE ac NBSS yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol.